• English
  • Cymraeg

 

W341

Mae’r llestr hwn wedi’i wneud o frecia a’i ymyl yn lledfesur 32cm. Mae’n dyddio o Frenhinllin 1-4 (3100–2494CC). Byddai llestri o’r fath wedi dod o feddau pwysigion.

Ymddengys iddi gael ei chasglu gan Mrs Berens. Offeiriad Sidcup Place oedd Randolph Humphery Berens, née McLaughlin (1844-1922). Cymerodd yr enw Berens pan briododd ag Eleanor Frances Berens ym 1877. Galluogodd ei chyfoeth hi iddo deithio a chasglu hynafolion. Roedd hithau hefyd yn casglu. Gwerthwyd ei gasgliad ef yn Sotheby’s ar 18 Mehefin 1923. Gwerthwyd casgliad ei wraig ar 29 Gorffennaf 1923 a 31 Gorffennaf 1923 (Bierbrier 1995, 42-43). Gan i’r eitem hon gael ei gwerthu ar 31 Gorffennaf mae’n dod o gasgliad Mrs Berens. Mae gan y Ganolfan o leiaf 19 o eitemau Berens sy’n dod o’r naill gasgliad neu’r llall.

Darllen pellach

Aston, B. G., 1994. Ancient Egyptian Stone Vessels. Heidelberg: Studien zur Archäologie und Geschichte Altägyptens 5.

Bierbrier, Morris 1995. Who Was Who in Egyptology. Llundain: Egypt Exploration Society.

Other items from the Berens Collection in the Egypt Centre

Other stone vessels in the Egypt Centre

css.php