
Gallwch gwrdd â ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd, dechrau llwybr gyrfa a chael y boddhad o helpu i redeg yr unig amgueddfa Eifftaidd yng Nghymru! Mae gennym ddosbarthiadau Eifftoleg arbennig, am ddim i’n gwirfoddolwyr. Gallwch hyd yn oed fenthyca llyfrau o’n llyfrgell.
Mae dwy ffordd o gymryd rhan, gallwch wirfoddoli neu gallwch gael lleoliad gwaith:
- Mae gwirfoddolwyr yn ymrwymo amser am ddim i’r amgueddfa yn rheolaidd dros gyfnod estynedig. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwirfoddoli rhwng 3 a 17 awr bob mis. Gallwch wirfoddoli rhwng 10am a 4pm o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn. Mae croeso i bawb o bob oed (10-99+ oed).
- Mae lleoliad gwaith yn rhaglen waith fyrrach sy’n ddi-dâl (llawn amser fel arfer) ac yn ddwys a’r nod yw rhoi profiad ymarferol i chi o weithio mewn amgueddfa mewn rôl blaen y tŷ. Gall lleoliadau bara am wythnos neu fwy – chi sy’n dewis. Mae ein lleoliadau gwaith yn agored i bobl 14 oed a throsodd.
Pa bynnag ffordd y byddwch yn penderfynu cymryd rhan, byddwch yn ymuno â thîm cynyddol o wirfoddolwyr ymroddedig sydd wrth eu bodd yn gweithio yn ein hamgueddfa. Gobeithio y byddwch chithau hefyd!
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli yn y Ganolfan, cysylltwch â Rheolwr y Gwirfoddolwyr:
Syd Howells
Y Ganolfan Eifftaidd
Prifysgol Abertawe
Abertawe
SA2 8PP
Ffôn: 01792 295960 / 606065
E-bost: l.s.j.howells@abertawe.ac.uk