Mae’r Ganolfan Eifftaidd yn cynnig amrywiaeth o becynnau Parti Pen-blwydd, sy’n berffaith ar gyfer y rhai sydd am ychwanegu rhywfaint o hud i’w diwrnod arbennig. Mae’r rhain ar gael ar brynhawn Sadwrn yn unig. Yn addas i blant 6-12 oed.
Cost
Gallwn ni ddarparu ar gyfer hyd at 10 plentyn am £10 yr un. Bydd cyfanswm o ddwy awr yn yr amgueddfa. 90 munud o weithgareddau dan arweiniad staff a 30 munud yn y man partïon.
Ar ôl i chi ddewis eich pecyn dewisol o’r ddewislen uchod, lawrlwythwch y ffurflen archebu a’i hanfon drwy e-bost i egyptcentre@abertawe.ac.uk
Fel arall, gallwch alw heibio i’r amgueddfa i gasglu ffurflen archebu neu ein ffonio ar 01792 295960.
Ffurflen Archebu:
Taflen Parti Pen-blwydd (ynghyd â rhagor o wybodaeth)