• English
  • Cymraeg

Beth rydym yn ei wneud?

Mae gan y Ganolfan Eifftaidd dair swyddogaeth graidd sy’n cael eu cyflawni drwy sawl gwasanaeth amgueddfa a lle mae’r holl aelodau staff yn cymryd rhan ar lefelau gwahanol. Y swyddogaethau craidd yw:

Cadwraeth y Casgliad, ac felly rheoli’r casgliad, yw sylfaen unrhyw amgueddfa. Heb y casgliad ni fyddai amgueddfa. Mae casgliadau’n sylfaenol i ddiffiniad a gweithrediad amgueddfa. Mae’r polisi caffael a gwaredu, y strategaeth cadw a’r ddogfennaeth yn elfennau canolog o hyn ac yn ofynion achrediad.

Diffinnir Addysg yn y Ganolfan Eifftaidd fel Ysbrydoli Dysgu ar gyfer Pawb ac mae’n defnyddio’r casgliad i ddarparu gwasanaeth ar gyfer pob oed a gallu. Mae addysg yn cynnwys addysgu a dysgu, ymchwil, meithrin sgiliau, ysbrydoli ayb., ac mae’n cynnwys amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys pwynt gwerthu’r siop. Mae addysg hefyd yn ymwneud â hyfforddi staff a gwirfoddolwyr yn ogystal â datblygiad personol.

Mae ehangu cyfranogiad yn datgan yn glir ein nod o gyrraedd cynulleidfa mor amrywiol â phosib ac i gynnwys pob grŵp ym mywyd y Brifysgol ac felly, y Brifysgol. Fel hyn caiff dwy gynulleidfa – ‘y Brifysgol’ a’r ‘Cyhoedd’ – eu cyfuno.

 

 

 

css.php