Gall myfyrwyr presennol Prifysgol Abertawe gofrestru am wobrau HEAR Prifysgol Abertawe i gydnabod eu bod yn gwirfoddoli gyda ni.
Ar gyfer gwobr efydd rhaid i’r gwirfoddolwr gwblhau meini prawf ar gyfer un rôl, ar gyfer gwobr arian rhaid cwblhau dwy rôl, a thair rôl ar gyfer gwobr aur. Ar ddiwedd eich amser ym Mhrifysgol Abertawe, bydd y gwobrau’n cael eu hychwanegu at drawsgrifiad terfynol eich gradd.
Mae rolau gwirfoddolwyr wedi’u rhestru ar y dudalen hon. Gall gwirfoddolwyr gwblhau mwy nag un rôl, e.e. gallan nhw fod yn Gynorthwy-ydd Oriel ac yn Gynorthwy-ydd Addysg. Serch hynny mae rhai rolau’n gynyddol, er enghraifft i fod yn Arweinydd Addysgol rhaid i chi fod yn Gynorthwy-ydd Addysgol yn gyntaf.
Rhaid i’r holl rolau gwirfoddoli gefnogi cenhadaeth yr amgueddfa o ran dehongli a gofalu am ddeunyddiau archeolegol Eifftaidd a dogfennaeth gysylltiedig er addysg ac adloniant y cyhoedd. Byddan nhw’n gwneud hyn drwy ymarfer tair rheol graidd yr amgueddfa ar gyfer pa bynnag rôl y byddant yn ei chyflawni:
Cadw’r casgliad
Addysg
Ehangu cyfranogiad.
Sut gallaf gymryd rhan?
Cwblhewch y ffurflen gais a’i hanfon at Reolwr Gwirfoddoli’r Amgueddfa a fydd yn cydnabod eich cais ac yn anfon am eich dau eirda. Dilynwch gyfarwyddiadau dilynol i gyflwyno cais am wiriad DBS. Unwaith byddwch wedi’i dderbyn cysylltwch â Rheolwr Gwirfoddoli’r Amgueddfa a phan fydd eich geirdaon wedi’u dychwelyd, bydd yn trefnu dyddiad ar gyfer eich sefydlu.
Lawrlwythwch Ffurflen Gais Gwirfoddolwr
Pa ymrwymiadau amser sydd gennych a phryd gallaf wirfoddoli?
Gall myfyrwyr wirfoddoli ar unrhyw adeg o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn rhwng 10am a 4pm. Rydym yn hyblyg yn y Ganolfan Eifftaidd ac yn cydnabod bod gan wirfoddolwyr ymrwymiadau eraill. I gael mwy o wybodaeth am wirfoddoli neu eglurhad, cysylltwch â Rheolwr Gwirfoddoli’r Amgueddfa:
Syd Howells
Y Ganolfan Eifftaidd, Amgueddfa Henebion yr Aifft
Prifysgol Abertawe
Abertawe
SA2 8PP
Ffôn: 01792 606065
E-bost: l.s.j.howells@abertawe.ac.uk