Mae staff y Ganolfan Eifftaidd wedi cyhoeddi dros 100 o dudalennau ar-lein yn sôn am eitemau unigol. Gellir rhannu’r rhain i’r categorïau canlynol:
Eirch a darnau o eirch
Duwioldeb y Cartref (crefydd yn y cartref)
Paletau colur ar ffurf pysgodyn
Duwiau a Demoniaid
Eillio a ffyrdd eraill o gael gwared ar wallt
Eitemau sy’n gysylltiedig â Niwbia
Ffotograffau o’r Aifft a dynnwyd ym 1917
Eitemau Cyn-freninlinol i Freninlinol Cynnar
Copiwyr a deunyddiau yn dangos copiwyr
Y Trydydd Cyfnod Canolog, cyffredinol
Darnau o eirch o’r Trydydd Cyfnod Canolog
Arfau a rhyfel
Mae nifer o gyhoeddiadau sy’n ymwneud â’r casgliad wedi cael eu hargraffu.
Mae gennym rywfaint o ddeunyddiau y gallwn nodi eu bod o gloddiadau ffurfiol. Mae hyn yn cynnwys: dros 700 o ddarnau o gloddiadau Cymdeithas Archwilio’r Aifft yn Armant; nifer bach o eitemau o gloddiadau Garstang yn Esna, Abydos a Hierakonpolis; nifer o eitemau o gloddiadau Cymdeithas Archwilio’r Aifft yn Amarna; ychydig eitemau o gloddiadau Brunton yn Mostagedda; eitemau eraill o gloddiadau Brunton yn Qau; nifer o eitemau o gloddiadau’r Ysgol Archeoleg Brydeinig rhwng 1928 a 1929 yn Tell el Fara (Beth Phalet), ayb.