Dewch i drio gwisgoedd yn arddull yr Hen Aifft a chreu eich gemwaith eich hun yn ystod gwyliau’r Pasg, yn ein gweithdai Crefftau a Gwisgoedd i blant!
Dewch i ddarganfod y gwahanol fathau o wisgoedd oedd ganddynt yn yr Hen Aifft, a sut cawsant eu creu, wrth i chi wisgo fel dawnswyr teml, ffermwyr a hyd yn oed y Ffaro. Cewch gyfle i gyffwrdd â gwrthrychau go iawn a grëwyd gan yr Eifftwyr hynafol a dysgu’r sgiliau roedd eu hangen i greu’r swynoglau hudol a oedd yn cael eu defnyddio yn ystod y broses mymïo. Yna gallwch greu eich coler a’ch coron Eifftaidd eich hun i’w cadw.
(Yr un gweithdy sy’n cael ei gynnal bob dydd)
Gofynnir i rieni ollwng eu plant yn y bore, a’u casglu ar ddiwedd y gweithdy. Bydd angen i’ch plant ddod â phecyn bwyd.
Yn ogystal ag y digwyddiadau isod, byddwch chi’n mendio mwy i wneud ar ein Tudalen Dysgu o Gartref