Gwirfoddolwyr Ifanc 10-18 Oed
Mae gwirfoddoli yn y Ganolfan Eifftaidd yn hwyl! Fel gwirfoddolwr ifanc, byddwch yn Gynorthwyydd Oriel. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gofalu am yr orielau, yn siarad ag ymwelwyr ac yn arddangos ein gweithgareddau ymarferol, fel mymieiddio, i ymwelwyr! Weithiau, efallai y cewch gyfle i drin a thrafod rhai o’r gwrthrychau yn y blychau hefyd.
Er bod oedolion yn goruchwylio, chi sy’n gyfrifol am gynnal gweithgareddau ar ddydd Sadwrn, ac rydych yn cynrychioli’r Ganolfan Eifftaidd, felly rydych mewn sefyllfa unigryw. Nid oes unrhyw amgueddfa arall yn y wlad yn cael ei rhedeg gan bobl ifanc i’r fath raddau.
Mae rhaglen gwirfoddolwyr ifanc y Ganolfan Eifftaidd yn rhoi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn rhaglen wirfoddoli lwyddiannus a gweithio yn un o’r ychydig amgueddfeydd Eifftoleg yn y DU!
Gallwch!!! Gall unrhyw un dros 10 oed wirfoddoli. Does dim angen i chi wybod dim am yr Hen Aifft nac amgueddfeydd ond mae angen diddordeb mewn hanes a threftadaeth arnoch ac mae angen i chi fwynhau gweithio gyda llawer o bobl wahanol!
Mae’r Ganolfan Eifftaidd yn arbenigo mewn gweithio gyda phobl o alluoedd gwahanol a’u croesawu. Os credwch yr hoffech wirfoddoli, ond yr hoffech drafod eich anghenion unigol, cysylltwch â Rheolwr y Gwirfoddolwyr a fydd yn fwy na pharod i’ch helpu!
Mae’r rhaglen gwirfoddolwyr ifanc yn rhedeg rhwng 10 a 4 ar ddydd Sadwrn. Fel arfer, mae’n rhaid i chi gwblhau o leiaf 3 awr ar ddydd Sadwrn bob pythefnos (ond rydym yn hyblyg), ond gallwch wneud mwy! Os ydych o dan 12, dim ond am 3 awr y dydd y gallwch wirfoddoli. Gallwch hyd yn oed wirfoddoli yn ystod y gwyliau ar ôl i chi gwblhau eich cyfnod sefydlu!
Mae’n hawdd iawn! Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais/ffurflen ganiatâd i wirfoddolwyr ifanc isod. Postiwch y ddwy ffurflen atom neu ewch â nhw i’r Amgueddfa, ac wedyn byddwn yn prosesu eich cais. Os ydych dros 16 oed, bydd angen 1 geirda arnoch.
Am ein bod yn rhaglen mor boblogaidd, dim ond 35 o bobl ifanc y gallwn eu derbyn ar y tro yn anffodus. Mae hyn yn golygu’n aml fod gennym restr aros. Peidiwch â digalonni os cewch eich rhoi ar restr aros, does dim angen i’r rhan fwyaf o bobl aros mwy na 3 mis cyn bod lle ar gael!
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli yn y Ganolfan, cysylltwch â:
Syd Howells
Rheolwr y Gwirfoddolwyr
Y Ganolfan Eifftaidd
Prifysgol Abertawe
Abertawe
SA2 8PP
Ffôn: 01792 606065
E-bost: l.s.j.howells@swansea.ac.uk