• English
  • Cymraeg

W845

Rhan uchaf cerflun sebonfaen o ddyn mewn mantell. Prynodd Syr Henry Wellcome yr eitem hon mewn arwerthiant o eitemau Rustafjaell ar 19-20 Rhagfyr 1906, lot 219.

Roedd ffigyrau mewn mantell, yn sefyll neu’n eistedd, yn cael eu cynhyrchu yn y Deyrnas Ganol. Weithiau cânt eu cymharu â ffigyrau’r Hen Deyrnas o’r brenin mewn mantell yng ngolygfeydd heb-sed. Roedd cerfluniau’n gwisgo mantell yn cael eu gwneud trwy gydol y Deyrnas Ganol ond rhoddwyd y gorau i’w defnyddio yn y 18fed Frenhinllin. Mae’r clustiau mawr yn nodweddiadol o’r cyfnod hwn ac efallai mai ei fwriad oedd portreadu math o swyddog sy’n gwrando. Gall y wig fawr fod yn awgrymu dyddiad yn y 13eg Frenhinllin.

Yn wahanol i gerfluniau bloc, roedd ffigyrau o’r math hwn yn cael eu rhoi mewn temlau yn hytrach nag mewn beddrodau (Russmann 2001, 100). Roedd selogion yn gosod cerfluniau mewn temlau i gynrychioli eu hunain yn addoli duwiau.

Tra na fyddai’r eitem hon yn perthyn i ddosbarth isaf cymdeithas, ni fyddai chwaith yn perthyn i’r bonheddig. Tuedd y dosbarthiadau isaf oedd defnyddio carreg feddal fel sebonfaen i lunio’u cerfluniau, gyda charreg galed fel granodiorit yn cael ei defnyddio gan y boneddigion.

Cyhoeddwyd yr eitem hon yn Malek et al (1999, 418, rhif. 801-445-585).

Gweler hefyd W639 am ffigyrau mewn mantell

 

Darllen pellach

Bourriau, J. 1988. Pharaohs and Mortals. Egyptian Art in the Middle Kingdom. Cambridge: Cambridge University Press. 

Malek, J.,  Magee, D. and Miles, E. 1999. Topographical Bibliography of Ancient Egyptian Hieroglyphic Texts, Statues, Reliefs and Paintings, VIII, Objects of Provenance Not Known, Part 1. Royal Statues. Private Statues (Predynastic to Dynasty XVII). Oxford: Griffith Institute.  

Russmann, E.R. 2001. Eternal Egypt. Masterworks of Ancient Egyptian Art from the British Museum. London: British Museum Press.

css.php