• English
  • Cymraeg

 

W83

Mae gan y ddysgl grochenwaith fawr, eang ei genau hon slip gloyw. Mae’n 40.5cm mewn uchder. Nid ydym yn siŵr o’i tharddiad. Gallai’r rhif cloddfa, ‘638/1958’, awgrymu ei bod yn deillio o Naqada. Cafodd ei phrynu gan Wellcome o gasgliad Rustafjaell ym 1907.

Mae dysglau fel hyn fel arfer yn dyddio o’r cyfnod Cynfreninlinol i’r Hen Deyrnas Gynnar a chafodd llawer ohonynt eu defnyddio i gadw gweddillion y meirwon. Yn aml, byddai potiau’n cael eu troi wyneb i waered dros y cyrff. Darganfuwyd claddiadau potiau yn el-Kab, el-Amrah, Reqaqna, Ballas, Naqada, Hierakonpolis ac Abydos (Peet a Loat, 20-22, pl. 4 gyda chyfeiriadau pellach) a Minshat Abu Omar (Kroeper 1994). Ceir enghraifft gyda chladdiad yn Amgueddfa Petrie (UC14857).  Nid oes tystiolaeth i awgrymu fod claddiadau potiau yn gysylltiedig â dosbarth penodol o bobl.  Yn Arabeg, gelwir dysglau mawr o’r fath yn majur.

Ysgrifenna Petrie (1896, 42): ‘In tombs of the Old Kingdom at Ballas burials were found in large bowls, and in square pottery cists or coffins, made in imitation of woodwork. Mr Quibell states that large circular pots were found lying mouth up with contracted burials inside, and also were inverted over burials. They occurred in the groups of staircase tombs, and are similar to some pots found by the Giza hotel.’ Mae plât 44 yn yr un gyfrol yn dangos pot tebyg.

Other Predynastic objects in the Egypt Centre  

 

 

Darllen pellach

Kroeper, K. 1994. ‘Minshat Abu Omar. Pot Burials Occurring in the Dynastic Cemetery’. Bulletin de Liaison du groupe International d’Étude de la Céramique Égyptienne, 18, 19-32. 

Peet, T.E. and Loat, W.L.S. 1913. The Cemeteries of Abydos. Part III. 1912-1913. London: Egypt Exploration Fund. 

Petrie, W.M.F. 1895. Naqada and Ballas. London: Bernard Quaritch.

 

 

css.php