• English
  • Cymraeg

W563

W563

O Nagada II (3500-3100CC). Mae paletau cosmetig ar ffurf pysgod i’w cael ym meddau’r cyfoethog a’r tlawd, dynion a menywod. Fodd bynnag, rhai o’r Deyrnas Newydd, y 18fed Frehinllin (1550-1295 CC) mwy na’r tebyg, yw’r ddau a ddangosir yma, fel y rhan fwyaf yn y Ganolfan Eifftaidd.

Mae mwyafrif y paletau ar ffurf y pysgodyn bwlti. Ymddengys fod y pysgodyn bwlti, Tilapia nilotica, yn amlygiad o dduw’r haul. Mae’r bwlti’n cadw’r wyau sydd wedi’u ffrwythloni yn ei geg nes iddynt ddatblygu’n silod ac yna’n eu poeri allan. Mae felly’n ymddangos fel petai’n eu llyncu ac yna’n ‘rhoi genedigaeth’ iddynt ac o’r herwydd yn symbol o ailenedigaeth.

Does neb yn siŵr iawn pam y dylai paletau cosmetig fel y rhain fod ar ffurf pysgodyn. Efallai iddynt gael eu gwneud ar gyfer defodau fel eneinio delw neu fod iddynt gysylltiad â chladdedigaeth. Yn y naill neu’r llall, byddent yn symbol o ailenedigaeth. Roedd paent ac eli llygaid yn hanfodol i atgyfodiad. Cyn ymddangos yn ‘Neuadd Cyfiawnder’ byddai’n rhaid i’r unigolyn buro’i hun, gwisgo gwisg wen, lliwio’i lygaid ac eneinio’i hun. Ymddengys fod peintio’r llygaid yn rhan o ddefodau cwlt dydd-i-ddydd. Mae portreadau o wartheg wedi’u tynghedu i gael eu lladd yn ddefodol weithiau’n eu dangos yn gwisgo paent llygaid!

Yn ôl Brewer a Friedman (tud 9) sonnir am y pysgodyn bwlti mewn papyri meddygol fel elfen ar gyfer paratoi eli. Yn ogystal â chael ei ddefnyddio i addurno’r llygaid, roedd y cosmetig, o bosib, yn amddiffyn y llygaid rhag yr haul llachar ac yn gweithredu fel diheintydd naturiol.

Rheswm arall am ddefnyddio pysgodyn fel cynhwysydd cosmetig yw mai un o’r enwau am y bwlti oedd ‘wadj’ sy’n golygu ‘gwyrdd ac ifanc’. Dyna hefyd yr enw oedd yn cael ei roi i golur llygaid gwyrdd.

Mae pysgodyn hefyd yn cael ei ddefnyddio fel ffurf cynhwyswyr cosmetig ac fel amwled.

 

 

Other open cosmetic palettes or spoons in the collection

 

Darllen Pellach

 

Brewer, D.J. and Friedman, R.F. Fish and Fishing in Ancient Egypt. Warminster.

Delanges, E. 1993. Rites et beauté: objets de toilette égyptiens. Paris.

Frédéricq, M. 1927. “The Ointment Spoons in the Egyptian Section of the British Museum”, in Journal of Egyptian Archaeology, 13, 11, pl. 4.

Kozloff, A.P. and Bryan, B.M. and Berman, L.M. 1993. Egypt’s Dazzling Sun. Amenhotep III and his World. Cleveland: the Cleveland Museum of Art,

Peck, W.H. 1982. Spoons and Dishes. In Brovarski et al. (ed.) Egypt’s Golden Age: The Art of Living in the New Kingdom. Boston.

css.php