• English
  • Cymraeg

W496

Mae’n bosib mai naill ai Bastet, Mut neu Sekhmet yw’r cerflun gwydrog hwn. Cafodd yr holl dduwiesau eu portreadu gyda phennau cath neu lew. Mae’n 18.6cm o uchder ac mae’n debyg y’i gwnaed fel offrwm addunedol i dduw.

Roedd Bastet yn gysylltiedig â ffrwythlondeb, mamoldeb ac amddiffyniad. Yn aml, caiff ei phortreadu fel cath neu weithiau fel menyw â phen cath yn cario sistrwm (gallwch weld sistrwm lan llofft yn yr adran ar gerddoriaeth).

Mae’n debyg mai tarddiad Sekhmet oedd Letopolis, ond cyn hir, byddai’n cael ei chysylltu â Memphis. Ei henw yw ‘Hi sy’n rymus’. Roedd yn ferch i’r heuldduw, Re. Mae chwedl y cafodd ei darganfod mewn beddau yn Thebes yn adrodd stori ohoni’n cael ei hanfon gan Re i ladd dynol ryw am wrthryfela yn ei erbyn. Roedd y tir yn goch â gwaed, ac anogodd Re iddi ymatal ond aeth yn ei blaen. Fodd bynnag, mae’n cael ei thwyllo i yfed cwrw coch, gan feddwl mai gwaed oedd e. Yna, mae’n meddwi ac yn rhoi’r gorau i ladd. Caiff ei meddwdod ei ddathlu yng ngŵyl Hathor drwy yfed cwrw coch. Mewn rhai fersiynau, mae’n troi i mewn i Bastet neu Hathor pan gaiff ei llonyddu. Dywedir yr roedd Sekhmet hefyd yn gyfrifol am afiechyd.

Weithiau, caiff Mut hefyd ei phortreadu fel duwies â phen llew. Fel Isis a Hathor, roedd hi’n cael ei hystyried yn fam y brenin a oedd yn teyrnasu. Roedd hefyd ganddi ochr ymosodol ac roedd yn bosib ei chysylltu â Sekhmet.

Cyn dod i feddiant Syr Henry Wellcome, roedd y gwrthrych hwn yn eiddo i’r Gymdeithas Theosoffig, a sefydlwyd gan y Foneddiges Helena Blatvatsky o Rwsia (1831-1891) ym 1875. Roedd ei haddysgu hi yn cyfuno llawer o gredoau, hen a modern, gan gynnwys credoau’r Hen Aifft. Mae’n debyg y cafodd ei ddefnyddio gan y Gymdeithas Theosoffig fel arteffact crefyddol.

 

css.php