• English
  • Cymraeg

 

W305W305 

Caead arch anthropoid. Mae’n bosib y gwnaethpwyd hwn ar gyfer menyw (sylwer ar y benwisg debyg i fwltur, neu gall gynrychioli’r aderyn ba fel gydag eirch rishïaid cynharaf; Miniaci 2010[1]).

Mae’n dyddio o’r Trydydd Cyfnod Canolog. Er y gellir tybio, ar yr olwg cyntaf, ei fod o’r Deyrnas Ganol, mae strapiau’r mymi’n dangos bod ei ddyddiad yn ddiweddarach o lawer (a awgrymir gan y siâp croes goch a welir rhwng y llabedi ac uwchben y coler). Mae’r math hwn yn nodweddiadol o ogledd yr Aifft. Daethpwyd o hyd i nifer ohonynt yn Saqqara sy’n dyddio o’r ail Frenhinlin ar hugain i 700 CC. Mae’n wahanol iawn i’r eirch melyn â golygfeydd prysur a gysylltir fel arfer â Thebes yn yr unfed Frenhinlin ar hugain.

Mae UC36213 yn Amgueddfa Petrie yn eithaf tebyg i’r enghraifft hon. Gweler hefyd Amgueddfa Brydeinig EA 30720a (Jørrgensen 2001, 14, ffig. 4) a ddarganfuwyd yn Thebes.

 

Mae’r arysgrif yn darllen:

Htp-di-nsw Inpw tp(y) Dw.f imy-wt nb tA Dsr nTr nfr xnty sH nTr prt hrw

Offrwm a roddir gan y brenin ac y mae Anubis, ar ei fryn, yn y deml, arglwydd y Tir Cysegredig, duw da, blaenaf o’r bwth duwiol (yn ei roi), offrwm llais….’

 

[1]Ymddengys fod y benwisg bluog yn rhagflaenu’r math o arch rishïaid a geir yng ngogledd yr Aifft. Fodd bynnag, mae’r benwisg fwltur yn weddol gyffredin yn eirch menywod o ail hanner yr unfed frenhinlin ar hugain. (van Walsem, 1997, 113)

Cyfeiriadau

Jørgensen, M. 2001. Egypt III. Coffins, Mummy Adornments and Mummies From the Third Intermediate Period, Late, Ptolemaic and Roman Periods (1080BC-AD 400). NY Carlsberg Glyptotek.

Other Third Intermediate Period Coffins in the Egypt Centre

css.php