• English
  • Cymraeg

W2020. Shabti o’r Trydydd Cyfnod Canolradd

W2020

Shabti ar ffurf mymi o’r Trydydd Cyfnod Canolradd mewn faience glas golau gyda hofiau a hieroglyffau mewn du. Mae gan y shabti wig dridarn a ffiled yn ogystal â basged ar ei gefn. Ceir un golofn o arysgrif sy’n ymddangos fel pe bai’n cynnwys enw a, gyda rhan ohono’n darllen ‘sr’. Mae’r eitem hon yn 111mm o uchder.

Erbyn y Trydydd Cyfnod Canolradd roedd shabtis yn cael eu masgynhyrchu a byddai shabti ar gyfer pob dydd o’r flwyddyn yn cael eu gosod yn gyffredin mewn beddrod.

Trosglwyddwyd hwn i ni o Amgueddfa Genedlaethol Cymru Caerdydd ac yn wreiddiol roedd yn rhan o gasgliad yr Arglwydd Aberdâr. Mae’n ymddangos fod yr eitem hon yn perthyn i’r un grŵp â W2023 sydd â’r un arysgrif.  

 

Siabtïau eraill yn y Ganolfan Eifftaidd

 Cyfeiriadau

Schneider, H.D., 1977. Shabtis. An Introduction To The History Of Ancient Egyptian Funerary Statuettes With A Catalogue Of The Shabtis In The National Museum Of Antiquities at Leiden. Leiden: Rijksmuseum van Oudheden. 

Stewart, H.M., 1995. Egyptian Shabtis. Princes Risborough: Shire.

css.php