• English
  • Cymraeg

W161

W161

Mae gan y Ganolfan Eifftaidd nifer o shabtis ag arysgrifau yn ei meddiant. Mae hwn yn dyddio o’r 25ain Frenhinlin ac yn un o nifer fawr o shabtis oedd yn eiddo i’r Prif lëwr-offeiriad Pedamenope. Mae wedi’i wneud o fasalt ac fe’i prynwyd gan Syr Henry Wellcome mewn ocsiwn yn 1924. 

Mae Malek (1977) yn trafod shabtis Pedamenope yn Amgueddfa’r Ashmolean a Fitzwilliam. Dywed er bod llawer iawn o shabtis o’r dyn hwn yn bodoli, yn aml maent yn dameidiog, fel hwn. Mae shabtis eraill yn eiddo i Pedamenope hefyd yn bodoli yn Amgueddfa Petrie, Amsterdam, ac ati. Pedamenope oedd perchennog beddrod 33 yn Assasif. Mae’n debygol ei fod yn brif lëwr-offeiriad Amun yn Thebae.

 

Siabtïau eraill yn y Ganolfan Eifftaidd

Cyfeiriadau

 

Lloyd-Edwards, H. 1983, A Descriptive Catalogue of Inscribed

Funerary Objects in the Swansea Wellcome Collection. (Unpublished MA thesis University College Swansea) 73-77. 

Malek, J. 1977. Shaptis of Pedamenope (TT 33) in the Ashmolean and Fitzwilliam Museums. Journal of Egyptian Archaeology 63, 137-141. 

Schneider, H.D., 1977. Shabtis. An Introduction To The History Of Ancient Egyptian Funerary Statuettes With A Catalogue Of The Shabtis In The National Museum Of Antiquities at Leiden. Vol II.

 

css.php