• English
  • Cymraeg

W1474 Lotus-shaped chalice

w1474

Mae’n ymddangos mai yn y Deyrnas Newydd yr ymddangosodd cwpanau lotws o’r fath ac maen nhw’n nodweddiadol o’r Aifft. Mae enghreifftiau eraill mewn faience i’w gweld yn yr oriel hon (W422). Mae’r lotws neu lili’r dŵr yn codi ac yn agor bob dydd fel mae’r haul yn codi. Roedd felly’n cael ei gysylltu ag ailenedigaeth.

Mae Swyn 81 yn ‘Llyfr y Meirw’ ar gyfer trawsffurfio’r person i lotws: ‘Spell for assuming the form of a lotus. To be said by N. I am this pure lotus that has ascended by the Sunlight and is at Re’s nose. I spend my (time) shedding (i.e. the sunlight) on Horus. I am the pure lotus that ascended from the field.’ Cyfieithiad o (1974).

Mae rhai wedi awgrymu fod ei briodoleddau narcotig hefyd yn cael eu defnyddio gan yr Eifftiaid (gweler Harer 1985 ac Emboden 1981). Fodd bynnag, mae astudiaethau diweddar wedi dangos na allai fod â phriodoleddau o’r fath (Counsell 2008). Mae’n bosib, serch hynny, fod ei arogl peraidd â nodweddion adfywiol. Yn sicr fe’i cysylltir â’r erotig, sydd ei hun â chysylltiadau adfywiol. Mae ffrwythau’r mandrag, sydd ag arogl ac yn cael eu portreadu’n cael eu harogli ym mhartïon yfed y Deyrnas Newydd, hefyd â nodweddion erotig. Mewn barddoniaeth serch, caiff yr anwylyd ei disgrifio fel un yn dod o diroedd yr arogldarth. Mae hefyd yn ymddangos fod arogl yn ddolen gyswllt â’r duwiau. Yn wir, dywedir i fam Hatshepsut gael ei deffro gan arogl y duw Amun, ac roedd arogldarth â chysylltiad agos â dwyfoldeb. Roedd mymïau’n cael eu perarogli i’w gwneud yn fwy duw-debyg.

Cyfeiriadau:

Counsell, D.J. 2008 Intoxicants in ancient Egypt? Opium, nymphea, coca and tobacco. In R. David Egyptian Mummies and Modern Science, Cambridge: Cambridge University Press, 195–215.

Emboden, W. 1981. Transcultural Uses of Narcotic Water Lilies in Ancient Egyptian and Maya Drug Ritual. Journal of Ethnopharmacology, 3, 39–83.

Harer,  W. B. 1985. Pharmacological and Biological Properties of the Egyptian Lotus. Journal of the American Research Center in Egypt, 22, 49–54.

css.php