• English
  • Cymraeg

 

w1358

Roedd llestri Blwyddyn Newydd, fel y rhai sy’n cael eu harddangos yn y Ganolfan Eifftaidd (maen nhw o ddau lestr gwahanol) ar ffurf lentigol, ac yn debyg i fflasgiau. Roeddent yn cael eu gwneud o faience. Roedd llestri fel hyn yn hynod o boblogaidd yn ystod teyrnasiad Apries ac Amasis o’r chweched frenhinlin ar hugain. Maen nhw weithiau i’w cael mewn claddiadau. Yn aml bydd arysgrifau’n dymuno blwyddyn newydd dda arnynt.

Awgrymwyd bod y ffurf disg wedi’i wasgu ychydig sydd i gorff y llestr yn cynrychioli’r haul, w1359symbol o ailenedigaeth. Gall yr ymyl ymledol sydd i’w gweld yn y darn ar y dde fod yn cynrychioli motiff blodeuol, y lotws efallai, symbol arall o ailenedigaeth. Yn aml bydd dau fabŵn gyda’u pawennau wrth eu cegau yn eistedd wrth waelod y gwddf. Roedd y babŵn yn symbol o ailenedigaeth, yn croesawu’r haul fel y codai bob dydd. Fel hyn y darllen yr arysgrif ar y llestr sydd i’r chwith: wpt rnpt nfr (Diwrnod Blwyddyn Newydd Da) ac mae’r penderfynnod yn cynnwys tair llinell ddŵr (llinellau tonnog).

Roedd Blwyddyn Newydd yr hen Aifft yn cychwyn yn hwyr yn yr haf pan fyddai’r llif blynyddol yn dechrau codi yn yr afon Nîl. Awgrymwyd bod y llestri hyn yn dal hylif oedd wedi’i fwriadu i gael ei ddefnyddio mewn defod Blwyddyn Newydd na wyddom hyd yma beth oedd. Rydyn ni’n gwybod fod y Flwyddyn Newydd yn cael ei dathlu, ond does gennym ni ddim manylion am ddefod a allai fod ynghlwm wrth y llestri hyn. Fodd bynnag, mae’r ffaith i rai enghreifftiau gael eu darganfod mewn claddiadau yn awgrymu bod ganddynt hefyd swyddogaeth ailenedigaeth angladdol.

Darllen Pellach: 

Blanquet, C-H, 1992, ‘Typologie de la bouteille de nouvel ân’ in Cl. Obsomer, A-L. Oosthoek (gol) Amosiades Melanges offerts au professeur Claude Vanderslyen par ses anciens etudiant, Louvain-la-Neuve, 49-54.

Yamani, S. 2002, New Year’s bottles from Tell Marqula (Dakhla Oasis). Bulletin De L’Instit Français D’Archeologie Orientale, 102, 425-436.

css.php