• English
  • Cymraeg

W1315 Shabti Qedmerut

W1315

Shabti oedd yn perthyn i Addolwraig Dduwiol Qedmerut yn yr 22ain Frenhinlin hwyr yw hwn. Daeth y shabti hwn atom o’r Amgueddfa Brydeinig yn 1980 o Gronfa Archwilio’r Aifft. Mae’r arysgrif yn darllen Yr Osiris, Arglwydd y Ddau dir, Addolwraig Dduwiol Qedmerut. Pan fyddai Eifftiaid yn marw byddent yn cael eu cysylltu â duw gwrywaidd y meirw, Osiris, a dyna pam defnyddir y teitl ‘Yr Osiris’.

Darganfuwyd un o shabtis Qedmerut yn y Ramesseum (Quibell, 1898), felly mae’n bosibl mai yno y’i claddwyd.

Fel menyw frenhinol, mae Qedmerut yn gwisgo’r uraeus, y sarff amddiffynnol sy’n ymgodi, ar ei thalcen. Mae’r ffigur wedi treulio’n ddifrifol, mae enghreifftiau mwy cyflawn yn dangos yr enw i’w ysgrifennu mewn cartouche.  

Roedd yr Addolwraig Dduwiol yn deitl pwysig a roddwyd i fenywod brenhinol o’r Deyrnas Newydd ymlaen. Awgrymwyd bod deiliaid y teitl hwn bron yn gydradd â’r brenin am gyfnod, ond mae eu hunion swyddogaeth yn ansicr. Erbyn y Trydydd Cyfnod Canolradd, fe’i daliwyd ynghyd â’r teitl ‘Gwraig Amun Duw’. 

Yn ystod y 22ain a’r 23ain Frenhinlin roedd Libanus wedi dod i rym ac roedd sawl hawliad gwahanol ar orsedd yr Aifft. Mae rhai ysgolheigion yn dadlau bod hyn yn nodwedd o gymdeithas Lebanaidd. Nid yw ach Qedmerut a’i lleoliad yn

Siabtïau eraill yn y Ganolfan Eifftaidd

Cyfeiriadau

Aubert, J-F., 1974. Statuettes Égyptiennes. Chaoubtis, Ouchebtis. 

Quibell, J.E., 1898. The Ramesseum. 

Schneider, H.D., 1977. Shabtis. An Introduction To The History Of Ancient Egyptian Funerary Statuettes With A Catalogue Of The Shabtis In The National Museum Of Antiquities at Leiden. Vol II. 

Taylor, J.H., 2001. Death and The Afterlife in Ancient Egypt.

css.php