W1313
Shabti o’r Cyfnod Hwyr gydag arysgrifau. Y perchennog yw Ankhpefhery (ystyr yr enw yw ‘Boed i’w Feistr Fyw’), a daw, mae’n debyg o gloddfeydd Cymdeithas Fforio’r Aifft yn el-Hiba. Wedi’i dorri a’i atgyweirio. Piler cefn heb arysgrif. 114mm o uchder. Wig dridarn, pedestal yn sail, colofn gefn, sach hadau dros yr ysgwydd chwith. Saith rhes o hieroglyffau, barf ffug. Ceir enghraifft debyg yn Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon (1903.759); ac un arall yn y Fitzwilliam (E.203.1903).
Siabtïau eraill yn y Ganolfan Eifftaidd