• English
  • Cymraeg

W1284aDarn o lestr crochenwaith yn dangos pen buwch, 9.8cm o uchder.

Yn ôl pob tebyg, mae’r fuwch yn cynrychioli’r dduwies Hathor. Ymddengys fod fasys o’r fath wedi cael eu defnyddio o’r Deyrnas Ganol ar gyfer dal gwin neu laeth. Mae’n ymddangos fod gwyliau Hathor yn cynnwys elfennau o feddwdod, ond ar nifer o ystadau temlau byddai gwartheg yn cael eu cadw ar gyfer cynhyrchu llaeth sanctaidd.

Mae’n dyddio o gyfnod y Deyrnas Newydd i’r Cyfnod Groegaidd-Rufeinig.

Prynwyd gan Wellcome o gasgliad Rustafjaell.

Gweler Pudleiner 2001, 239-245 am enghraifft debyg.

 

W5364 is another Hathor vessel in the collection.

 

Llyfryddiaeth

Pudleiner, R., 2001. Hathor on the Thoth Hill = Hathor sur le Mont Thoth Mitteilungen des Deutschen Archäologischen Instituts. Abteilung Kairo,  57, 239-245.

css.php