• English
  • Cymraeg

W1022

W1022

Powlen eli o garreg. Ar ffurf dwy hwyaden. Mae’n dod o Saqqara yn ôl pob tebyg. Fel arfer, ceir paletau agored ar ffurf anifeiliaid mewn cyddestunau temlau.

 Er bod y rhain fel arfer yn cael eu hystyried yn baletau, gallent fod yn llwyau.

Mae natur y ffigurau hyn sydd gefn wrth gefn yn awgrymu eu bod yn hwyaid neu’n wyddau cypledig. Weithiau, defnyddir anifeiliaid cypledig eraill i ffurfio paletau/llwyau agored. Gall eu natur gypledig awgrymu y bwriadwyd iddynt fod yn offrymau.

Ceir hyd i gynwysyddion agored fel y rhain yn bennaf mewn cyd-destunau beddrodau a themlau ac maen nhw’n dyddio o’r Deyrnas Newydd.

Darllen Pellach

Delanges, E. 1993. Rites et beauté: objets de toilette égyptiens. Paris.

Frédéricq, M. 1927. “The Ointment Spoons in the Egyptian Section of the British Museum”, yn Journal of Egyptian Archaeology, 13, 11, pl. 4.

Peck, W.H. 1982. Spoons and Dishes. Yn Brovarski et al. (gol.) Egypt’s Golden Age: The Art of Living in the New Kingdom. Boston.

 

 

 

css.php