• English
  • Cymraeg

W1368-W1370

arrow

Weithiau gelwir y math hwn o ben saeth yn Bwynt Faynum, neu ben saeth gyda gwaelod ceugrwn, neu ben saeth gyda gwaelod cau. Mae’r rhan fwyaf o’r enghreifftiau yn y Ganolfan Eifftaidd ag un o’u hadenydd wedi’i thorri i ffwrdd.

 

Mae’r math hwn wedi’i wneud yn ddauwynebog ac mae’r ‘adenydd’ neu’r adfachau o wahanol hyd, yn dibynnu ar ddyfnder y gwaelod cau. Yn yr un modd, mae maint y teflynnau yn gwahaniaethu’n fawr a rhai, o’r herwydd, wedi cymryd yn ganiataol mai pennau saeth ydynt. Mae i’r rhan fwyaf ymylon ystlysol crwm er bod rhai yn syth ac yn peri i’r amlin ymddangos yn fwy trionglog. Mae nifer yn ddanheddog (Caton-Thompson a Gardner 1934, 28; Holmes 1989, 416).

 

Nid ydynt wedi eu cyfyngu i’r Aifft. Darganfuwyd math adeiniog tebyg ar safle H yn Wadi Ghazzeh yn llain Gaza (MacDonald 1932, pl. 20.15 a 23.31, dyfynnir yn Rizkana a Seeher 1988, 33). Nid yw’n glir ai yn yr Aifft y cawsant eu gwneud ai peidio.

 

Mae’r cynharaf o’r math yn ymddangos yn yr haenau Bashendi A yn Dakhleh (5700-5000 CC; McDonald 1999, 268). Maen nhw’n ymddangos yn y cyfnod Neolithig Faynum (Neolithig A) tua 4500 CC ac ar yr un pryd ym Merimde (Rizkana a Seeher 1988, 33). Maent yn parhau tan gyfnod Badarian a Naqada I (4000-3500 CC). Er eu bod yn aml yn cael eu galw’n ‘Bennau Faynum’ maen nhw hefyd i’w cael yn yr Aifft Uchaf, er enghraifft ym Mostagedda (Brunton 1937) a Badari (Brunton 1928, 35-36, pl.83). Nid yw’n glir a ydynt yn parhau tan gyfnod Naqada II (3500-3100 CC). Ymhlith safleoedd eraill lle y darganfuwyd pennau saeth gyda gwaelod cau mae: Armant (Mond a Myers 1937, pl.68.87), Hemamieh (Brunton a Caton-Thompson 1928, pl 83, 166 a 167) a Naqada (Petrie 1896 pl 72.57a 58).

 

Mae’r mathau Neolithig yn tueddu i fod wedi’u llunio’n fwy cain na’r mathau Cynddynastig (Gilbert 2004, 51). Ym Merimde Cynddynastig roedd y rhai mwy solet yn gynharach na’r rhai hir a chul (Rizkana a Seeher (1988, 33).

Bu dadlau ynglŷn â’r posibilrwydd o ganfod gwahaniaethau rhanbarthol. Mae Caton-Thompson a Gardner yn canfod pedwar math gwahanol o’r Faynum (Caton-Thompson a Gardner 1934, 28). Mae Hikade (2001) yn gwahaniaethu rhwng pen Merimde a phen Faynum. Dywed Rizkana a Seeher (1988, 33) i esiamplau trionglog gyda dim ond ychydig geudod gael eu darganfod yn yr un math o safleoedd ag eraill gydag adenydd amlwg ym Maadi, Faynum a Merimde. Yn ôl Holmes (1989, 416) ‘A virtually infinite variety of concave base arrowheads is known from the Faynum, but for the Predynastic of Upper Egypt it has been useful to distinguish only two basic shapes: ‘incurving barb form’ and ‘straight-sided elongated triangular form’’.

 

Er ei bod yn debyg mai pennau saeth yw’r enghreifftiau yn y Ganolfan Eifftaidd, gall rhai o’r mathau mwy fod yn bennau gwaywffon. Fodd bynnag, yn ddiddorol, darganfuwyd enghreifftiau mawr yn adeiledd 07 Hierakonpolis ac awgrym y cloddiwr oedd y gallent fod yn fawr oherwydd eu natur ddiofrydol (http://www.archaeology.org/interactive/hierakonpolis/field07/6.html)

 

Ymddengys nad oedd yr adenydd bob amser yn gweithredu fel adfachau. Cafwyd bod adenydd pen saeth gyda gwaelod cau â’i baladr yn dal wrtho wedi’u gorchuddio’n gyfan gwbl â glud. Yn yr enghraifft hon o leiaf, bwriad yr adenydd oedd cryfhau uniad y pen a’r paladr (Payne 1993, 180).

Mae’r ffaith mai pennau saeth dauwynebog yn hytrach na’r mathau trawslin symlach yw’r rhain yn awgrymu nad eu defnyddioldeb yn unig oedd o bwys. Mae hyd yn oed y rhai llai, mwy solet, wedi eu gwneud gyda mwy o ofal nag a fyddai ei angen o safbwynt defnyddioldeb yn unig. Felly, mae’n bur debyg fod iddynt bwysigrwydd symbolaidd, efallai fel arwydd o statws.

 

 

 

 

 

More information on flint in ancient Egypt

Other Predynastic items in the Egypt Centre 

Other items associated with archery in the Egypt Centre:

lunate arrowheads

archers’ thumb rings

First Intermediate Period stela EC62 and W1366

 

 

Darllen pellach

Brunton, G. 1928. Qau and Badari II, London: British School of Archaeology in Egypt. 

Brunton, G. Mostagedda and the Tasian Culture. London. 

Brunton, G. and Caton-Thompson, G. 1928. The Badarian Civilization and Predynastic Remains near Badari. London. 

Caton-Thompson, G. and Gardner, E.W. 1934. The Desert Fayum. London: The Royal Anthropological Institute of Great Britain and Ireland. 

Gilbert, G.P. (2004), Weapons, Warriors and Warfare in Early Egypt. BAR International Series 1208. Oxford. pp50-51. 

Hikade, T. 2001. Silex-Pfeilspitzen in Ägypten. Mitteilungen des Deutschen Archäologischen Instituts Abteilung Kairo, 57, 109-125. 

Holmes, D. 1989. The Predynastic Lithic Industries of Upper Egypt. A comparative study of the lithic traditions of Badari, Nagada and Hierakonpolis. BAR International Series 469. Oxford: Archaeopress. 

MacDonald, E. Starkey, J.L. and Harding, L. 1932. Beth-Pelet II. Prehistoric Fara, London: British School of Archaeology in Egypt. 

McDonald, M.M.A. 1999. ‘Daklha Oasis, Ismant el-Kharab’, in Bard, K.A., and Shubert, S.B. (eds.), Encyclopedia of the Archaeology of Ancient Egypt, London and New York: Routledge 261-269. 

Mond, R. and Myers, O.H. 1937. The Cemeteries of Armant. 2 vols. London: Egypt Exploration Society. 

Payne, J.C. 1993. Catalogue of the Predynastic Egyptian Collection ion the Ashmolean Museum. Oxford: Clarendon Press. 

Petrie, W.M.F. 1896. Naqada and Ballas 1895. London: Bernard Quaritch. 

Rizkana, I and Seeher, J. 1988. Maadi II, The Lithic Industries of the Predynastic Settlement. Maiz: Philipp von Zabern.

css.php