• English
  • Cymraeg

Terracotta head of Horus the Child (Harpocrates)

GR114c

Pen terracotta bychan. c40mm o uchder. Gwag. Mae’r pen yn gwisgo torch o flodau, y goron ddwbl a disg haul. Mae dau flaguryn lotws yn cael eu portreadu bob ochr i’r ddisg. Portread o Horus y Plentyn (Groeg Harpocrates) yw hwn; mae’n aml yn cael ei bortreadu gyda thorch o flodau, coron ddwbl a dau flaguryn lotws.

Mae’r blagur lotws yn pwysleisio priodoleddau adnewyddol y duw ac yn dwyn i gof enedigaeth duw’r haul o lotws. Personoliad o’r haul ifanc oedd Harpocrates. Mae’r goron ddwbl yn ei uniaethu â’r brenin oedd yn teyrnasu (Barrett 2011, 249–252). Mae’r dorch flodau’n awgrymu dathliadau (Barrett 2011, 305-307).

Mae ffigyrau bach terracotta wedi’u mowldio fel y rhain yn dyddio o’r Cyfnod Groegaidd-Rufeinig ac i’w cael mewn temlau a beddrodau yn yr Aifft. Nid yw’n sicr i beth roeddent yn cael eu defnyddio er y gallai rhai fod yn ddelwau cwlt neu ddiofryd. Mae’r mynach Coptaidd Shenoute yn sôn am ddryllio ‘delwau’ oedd yn cael eu cadw yn nhai Eifftiaid paganaidd. Mae’n bosib mai at wrthrychau terracotta fel hwn y mae’n cyfeirio (Barrett 2011, 259).

 

Darllen pellach

 

Barrett, C. E. 2011. Egyptianizing Figurines from Delos. A Study in Hellenistic Religion. Brill.

Dunand, F. 1990. Catalogue des terres cuites Gréco-Romanines d’Egypte. Paris: Ministere de la culture, de la communication et des grands travaux, Reunion des musees nationaux.

Török, L. 1995. Hellenistic and Roman Terracottas from Egypt. Rome: L’Erma di Bretscheider.   

Other items depicting Harpocrates 

Other Graeco-Roman items

css.php