• English
  • Cymraeg

Soldier stela

EC62

 Stela c.31cm o hyd, 28cm ar draws a 6cm o ddyfnder o’r Cyfnod Canol Cyntaf. Ar y tu blaen mae’n dangos dyn yn dal bwa yn ei law chwith a saethau yn ei law dde. Mae’n gwisgo coler llydan. Mae menyw’n sefyll y tu ôl iddo ac yn ymestyn at ei ben â’i llaw chwith. Mae’r ddau’n wynebu i’r dde.  

Mae ‘415’ wedi’i ysgrifennu mewn glas ar y tu ôl. Mae hefyd label gyda ‘393’ arno’n glynu wrth y tu ôl.  

Gelwir stelau fel hyn gyda bwawyr arnynt yn ‘stelae milwr’. Mae ‘stela milwr’ arall yn cael ei arddangos gan y Ganolfan Eifftaidd (W1366). Canlyniad rhyfel cartref y cyfnod hwn sydd o bosib yn gyfrifol am y fath niferoedd uchel o stelau milwr. Roedd bwawyr Nubaidd yn aml yn cael eu defnyddio fel milwyr yn yr Aifft. Mae Vandier (1954) yn awgrymu mai dim ond milwyr a gafodd eu lladd wrth ymladd oedd yn cael stelau, sydd efallai’n esbonio pam maen nhw’n ymddangos fel pe baent wedi’u gwneud ar frys.

 

Darllen Pellach:

Vandier, J. 1954, Manuel d’archéologie égyptienne, II, Paris: A. et J. Picard et Cie, 468-469.

Fischer, H.G. 1964, Inscriptions from the Coptite Nome, Rome: Biblical Institute Press, 50-102.

 

Other items associated with warfare in the Egypt Centre

css.php