• English
  • Cymraeg

 

ec257

Darn o faience glas yn dangos rhan o wyneb Bes gyda chroen llewpard wedi’i daflu dros ei ysgwyddau. Mwy na thebyg mai darn o lestr faience yw hwn. Mae’n mesur 7.5 x 2.3 x 5cm.

Mae Bes yn cael ei ddangos gyda barf a mwstas, ei farf a’i fwstas yn cael eu portreadu fel llywethau hir yn terfynu mewn cwrlyn tynn. Mae’r geg agored yn dangos ei ddannedd a’i dafod wedi’i gwthio allan. Mae ganddo drwyn llydan ac mae ei ffroenau ar led. Mae pen a thraed y croen llewpard mae’n ei wisgo wedi’u cysylltu gan ddwy arc.

Mae’r term ‘Bes’ yn cael ei roi i nifer o dduwiau o’r Deyrnas Ganol ymlaen. Mae’r duwiau hyn yn tueddu i fod â nodweddion llewaidd ac â chysylltiad â duw’r haul. Mae hefyd yn ymddangos eu bod yn gwarchod menywod a phlant, ac yn aml byddent yn cael eu dangos ar y cyd â Taweret, Hathor a chorsydd, dawnsio a chwarae llaw-ddrwm. Fel yma, dangosir Bes yn aml fel cor-dduw, gyda thafod wedi’i gwthio allan a barf fel llew.

Mae’r ffroenau ymledol, y pen llydan, y dannedd, y farf wedi’i phortreadu fel llywethau hir yn terfynu mewn cwrlyn tynn a’r croen llewpard yn awgrymu dyddiad o’r Cyfnod Diweddar (Romano 1980; Romano 1997 gyda chyfeiriadau). Yn ôl Romano, mae llestri Bes faience tebyg eu patrwm i hwn yn dyddio i ddegawdau cynnar y 26ain Frenhinllin (670–600CC). Mae enghreifftiau’n cynnwys Berlin 22200 (Schäfer ac Andrae 1925, ffig. 444(canol), 661–662). Nid yn yr Aifft y cafwyd pob un o’r enghreifftiau, er enghraifft Louvre AO25952 (Caubet 2010, 413, ffig. 37.4a-e). Mae’n bosib i lestri faience ddatblygu o enghreifftiau crochenwaith cynharach.

Nid yw’n glir beth yn union oedd cynnwys llestri o’r fath. Yn y Cyfnod Groegaidd-Rufeinig mae Bes yn cael ei ddangos yn dal cwpanau gwin, neu’n dawnsio gyda grawnwin. Efallai bod hyn oherwydd ei gysylltiadau â gafrddynion Groegaidd. Ymhellach, o’r Trydydd Cyfnod Canol ymlaen roedd cysylltiad agos rhwng Bes a Hathor a’r dathliadau o gwmpas Dychweliad y Dduwies Bell, dathliad o heddychu’r dduwies gydag alcohol. Yn y Deyrnas Newydd, mae llestri wedi’u peintio’n las weithiau wedi’u haddurno â phennau gosodedig o Bes sydd o bosib yn awgrymu eu bod yn arfer dal gwin. Cymerai llawer yn ganiataol mae eu pwrpas oedd dal gwin i’w weini mewn gwyliau, ond gallent fod wedi’u defnyddio i bwrpasau eraill.

Mae Bes hefyd wedi’i gysylltu’n agos â dŵr, trwy: ei ymddangosiad ar olygfeydd o gorsydd (y rheiny, fwy na thebyg, yn gysylltiedig â Gwyliau Llifogydd a Dychweliad y Dduwies Bell) o’r Trydydd Cyfnod Canol; ei gysylltiad â Taweret o’r Deyrnas Newydd; ei ymgorfforiad yn y gwrthrychau cipi yr oedd dŵr yn cael ei arllwys drostynt i sicrhau diogelwch i’r defnyddiwr rhag anifeiliaid peryglus y dŵr; ei ymgorfforiad achlysurol yn y powlenni-sha Ptolemaidd, math o bowlen seremonïol, tebyg i un yr Amgueddfa Brydeinig 1885,1101.22.

Gallent fod wedi dal olew peraidd, neu laeth hyd yn oed. Gwyddom fod rhai enghreifftiau bach wedi dal cohl, e.e. (Kozloff a Bryan 1992, 409) felly hawdd credu bod enghreifftiau mwy wedi dal persawr.).

Cyfeiriadaeth a Darllen Pellach

Am wybodaeth am lestri Bes seramig gweler Kaiser, R.K. 2003 ‘Water, Milk, Beer and Wine for the Living and the Dead: Egyptian and Syrio Palestinian Bes-Vessels from the New Kingdom through the Graeco Roman period’ traethawd ymchwil doethuriaeth heb ei gyhoeddi, Prifysgol California.

Caubet, A. 2010. From Susa to Egypt. Vitreous materials from the Archaemenid Period, Yn Curtis, J. a Simpson, St.J. (gol.), The World of Achaemenid Persia: History, Art and Society in Iran and the Ancient Near East, Llundain ac Efrog Newydd: I.B. Tauris 409–416.

Dasen V. 1993. Dwarfs in ancient Egypt and Greece. Efrog Newydd: Oxford University Press, 55–83.

Kozloff, A.P. a Bryan, B.M. 1992. Egypt’s Dazzling Sun. Amenhotep III and his world. Cleveland: Cleveland Museum of Art.

Romano, J. 1980. ‘The Origin of the Bes-Image’. Bulletin of the Egyptological Seminar 2: 39-56.

Romano, J.F. 1989. The Bes-image in Pharaonic Egypt traethawd ymchwil doethuriaeth heb ei gyhoeddi, Prifysgol Efrog Newydd.

Romano, J.F. 1997. 18. Vessel in the form of a Bes-image. In Capel, A.K. a Markoe, G.E. (gol.) Mistress of the House, Mistress of Heaven. Women in Ancient Egypt, Efrog Newydd: Hudson Hills Press and Cincinnati Art Museum, 68-70, 196.

Schäfer, H. ac Andrae, W. 1925. Die Kunst des alten Orients, Berlin: Propyläen.

Wahlberg, E-L. 2012. The Wine Jars Speak. A Text Study. Rhan o draethawd ymchwil MA o Brifysgol Uppsala, fersiwn ar-lein wedi ei lawrlwytho yn Awst 2015: http://uu.diva-portal.org/smash/get/diva2:528049/FULLTEXT01.pdf

Romano, J. 1980. ‘The Origin of the Bes-Image’. Bulletin of the Egyptological Seminar 2: 39-56.

Romano, J.F. 1989. The Bes-image in Pharaonic Egypt Unpublished PhD, New York University. 

Romano, J.F. 1997. 18. Vessel in the form of a Bes-image. In Capel, A.K. and Markoe, G.E. (eds.) Mistress of the House, Mistress of Heaven. Women in Ancient Egypt, New York: Hudson Hills Press and Cincinnati Art Museum, 68-70, 196.

Schäfer, H. and Andrae, W. 1925. Die Kunst des alten Orients, Berlin: Propyläen.  

Wahlberg, E-L. 2012. The Wine Jars Speak. A Text Study. Part of an MA thesis from Uppsala University, online version downloaded August 2015: http://uu.diva-portal.org/smash/get/diva2:528049/FULLTEXT01.pdf

 


Other Bes vessels

css.php