• English
  • Cymraeg

W5308

Mae’r math hwn o grochenwaith yn cael ei alw’n ‘D ware’ neu’n ‘Decorated Ware’ yn Saesneg. Mae’r llestri addurniedig hyn yn dyddio o tua’r 3500 CC ond mae’r potiau Eifftaidd cynharaf yn dyddio o tua 5500 CC!

Mae llestri crochenwaith fel y rhain yn dyddio o’r cyfnod Naqada II ac maen nhw i’w cael ledled yr Aifft. Maen nhw’n brin ar safleoedd aneddiadau ac nid ydynt mor gyffredin mewn beddau â mathau eraill o grochenwaith. Cafwyd awgrym y bwriadwyd iddynt gyfleu’r syniad o fywyd ysbrydol parhaus yn amgylchedd y Nîl, neu gallent fod yn fodd o gynhyrchu swynion ar gyfer y bywyd i ddod.

Mae ystyr y patrymau ar y llestri yn ddadleuol. Mae’r rhan fwyaf o Eifftolegwyr bellach yn cytuno eu bod yn portreadu cwch yn cario fflag neu faner. Dywedid nad cychod yw darluniadau o’r fath, ond tir dyfrllyd â phreswylfa pennaeth, neu blatfform teml ar bileri. Derbynnir fel arfer mai arwyddluniau dwyfol neu arwyddion llwythau neu daleithiau yw’r fflagiau ar bolion. Mae rhai o’r arwyddion ar botiau eraill bron yr un peth ag arwyddion duwiau mewn cyfnodau hanesyddol. Mae’r arwyddion ‘zzzz’ gwasgaredig wedi’u dehongli mewn sawl ffordd yn rhifau, dŵr offrwm, adar neu’n nodiannau pwysau, a’r trionglau bloc yn fryniau. Roedd y motiffau nid yn unig yn gyffredin ar grochenwaith o’r cyfnod hwn ond fe’u ceir yn yr enghraifft gynharaf y gwyddom amdani o baentiad wal Eifftaidd, sef beddrod wedi’i beintio yn Hierakonpolis.

Mae’r pot hwn wedi’i wneud o glai marl. Byddai clai marl a gafwyd ar ymyl yr anialwch a dan y cnydau ger yr anialwch, yn cael ei ddefnyddio. Mae crochenwaith o’r dyddiad hwn wedi’i lunio drwy dorchi a llyfnu. (Gallwch weld y torchau ar du mewn y llestr.) Rhoddwyd yr addurn arno cyn ei danio. Gwnaed brwshis o gyrs a gwnaed y paent o ocsidiau haearn.

Mae’r ffaith nad oes gan y llestri hyn waelod gwastad yn dangos eu bod wedi’u rhoi mewn dalwyr potiau, neu eu hongian o gordyn, neu eu rhoi yn y tywod i aros yn unionsyth. Gallai’r dolenni clust awgrymu eu bod yn cael eu hongian pan fyddent yn cael eu defnyddio. Fel arall, gallai’r dolenni clust fod wedi’u defnyddio i glymu clawr defnydd iddynt. Yn anffodus, nid ydym yn gwybod beth oedd ynddynt. Gan eu bod yn eithaf bach, gallent fod wedi dal nwydd drud, efallai persawrau, neu fêl hyd yn oed.

I gael cipolwg ar syniadau ynghylch tarddiad llestri ‘D’, gweler Askamit (1998, 36–37). Y farn bresennol yw bod llestri ‘D’ yn tarddu o’r Aifft Uchaf yn ardal Naqada-Abydos.

Dangosir yr arteffact hwn yng nghatalog arwerthiant MacGregor Sotheby 1922 pl. LIII. Mae’r arteffact yn cyd-fynd â’r disgrifiad o eitem 1757, ‘the smaller with a two-cabined boat on each side; found opposite Gebelein’. 

Darllen Pellach 

Adams, B. 1988. Predynastic Egypt. Rhydychen: Shire Publications.

Askamit, J. 1998. The D ware from Abusir el-Meleq. Yn C.J. Eyre gol. Proceedings of the Seventh International Congress of Egyptologists’, Caergrawnt, 3–9 Medi 1995. Leuven: Uitgeverij Peeters, 31–-38.

Arnold, D. a Bourriau, J.D. 1993. An Introduction to Ancient Egyptian Pottery. Mainz: Philipp von Zabern.

Hope, C. 1987. Egyptian Pottery. Rhydychen: Shire Publications

Other Predynastic and Early Dynastic items in the Egypt Centre

 

css.php