• English
  • Cymraeg

 

W429

Roedd yr Eifftiaid yn credu bod unigolion wedi’u gwneud i fyny o bum rhan: y ba, y ka, yr enw, y cysgod a’r corff ffisegol. Yn ôl Zabkar nid oes derm yn y Saesneg sy’n cyfateb i ba. Mae’n debyg i’n syniad ni o bersonoliaeth ond roedd hefyd yn priodoli gallu ac yn cael ei ymestyn i’r duwiau. Fodd bynnag, nid oedd y ba’n amlygu ei hun tan y byddai’r person wedi marw. Roedd ganddo’r gallu i deithio o gwmpas yn ddirwystr. Roedd y term ba hefyd yn cael ei ddefnyddio fel amlygiad ffisegol o dduwiau neilltuol. Er enghraifft, y tarw Apis oedd ba Osiris.

Roedd y ba’n aml yn cael ei ddangos fel aderyn, a’i ddyletswydd oedd bwydo’r ymadawedig. Roedd y ba wedi’i gysylltu mor agos â’r corff ffisegol fel bod angen bwyd a diod arno. Roedd y ba’n dibynnu ar y corff yr oedd yn rhaid iddo ailuno ag ef bob nos.

Mae’r darlun uchod yn dangos y ba, wedi iddo hedfan y tu allan i’r beddrod, yn gwneud ei ffordd at y mymi.

Mwy na thebyg mai’r aderyn-ba ym meddrod Tutankhamun yw’r cynharaf o’i fath. Mae’r mwyafrif o’r delwau o’r aderyn-ba yn dyddio o’r Cyfnod Saite i’r ail ganrif AD. Byddent o bosib yn cael eu rhoi ar allorau neu eirch. Mae Swyn 89 yn Llyfr y Meirw yn argymell rhoi aderyn-ba euraid ar frest mymi i sicrhau bod y ba’n cael ei ailuno ê’r corff.

  

 

EC236

 

 

 

 

 

There is also a representation of the ba-bird with the deceased on our 21st Dynasty coffin. 

Darllen Pellach

Harrington, N. 2013. Living with the Dead. Ancestor Worship and Mortuary Ritual in Ancient Egypt. Oxford and Oakville: Oxbow Books, 3-7.

Kaper, O.E. 2009. ‘A fragment from the Osiris Chapels at Dendera in Bristol’. Jaarbericht van het vooraziatisch-egyptisch genootschap Ex Oriente Lux, 41, 29-45.

Žakbar, L.V. 1968. A Study of the Ba Concept in Ancient Egyptian Texts. Chicago: University of Chicago Press.

css.php