• English
  • Cymraeg

Beselau modrwy ag enw Tutankhamun

EC3046

Beselau modrwy faience ag enw Tutankhamun. Mae gennym fwy o enghreifftiau o’r rhain o Amarna ag enw Tutankhamum arnynt nag unrhyw frenin arall yn y Ganolfan Eifftaidd. Mae rhai o’r beselau modrwy hyn i’w gweld yn yr arddangosfa o addurniadau’r corff ac mae un arall yn yr adran ar Amarna. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bum enw’r brenhinoedd, gan gynnwys yr enw cyntaf a’r ail enw, yn yr oriel lawr y grisiau.

Gellid ystyried defnyddio beselau modrwy ag enw brenin arnynt fel propaganda brenhinol, neu fel galw gan y boblogaeth am yr amddiffyniad, y cysylltiad â duwioldeb neu’r statws cymdeithasol a oedd yn gysylltiedig ag enw’r brenin.

Credai Kate Bosse-Griffiths (1980, 71-72) y rhoddwyd modrwyau faience i bobl bwysig yn unig. Fodd bynnag, er bod nifer yn perthyn i Tutankhamun – o leiaf daethpwyd o hyd iddynt yn ei fedd – darganfuwyd eraill mewn tai pobl gyffredin yn Amarna (Boyce 1989, 168). Daethpwyd o hyd i rai ym mhentref y gweithwyr hyd yn oed. Ceir amwledau ar bob lefel o’r gymdeithas hefyd (Boyce 1995, 339). Awgrymwyd efallai nad oedd rhai modrwyau’n cael eu gwisgo fel modrwyau, ond yn hytrach, byddent yn cael eu gwisgo am y gwddf, neu eu claddu mewn sylfeini hyd yn oed (Boyce 1989, 161). Mae maint rhai ohonynt (rhy fach neu fawr i’w gwisgo ar fys) yn awgrymu iddynt gael eu defnyddio fel offrymau addunedol neu eu crogi am y gwddf. Roedd dibenion amwled gan bob un ohonynt, mae’n debyg, gan gynnwys y rhai ag enwau brenhinoedd.

Mae’n ddadleuol a oedd Tutankhamun erioed yn teyrnasu o Amarna ai peidio. Er enghraifft, nid yw ei enw i’w weld ar unrhyw sylfeini na wedi’i stampio ar frics. Ar sail y dystiolaeth ar labeli gwin, ymddengys yn debygol i’r Llys Brenhinol adael Amarna ym mlwyddyn tri teyrnasiad Neferneferuaten (Kraus 2007). Yn sicr, mae’r arysgrif Tjay sy’n sôn am Dŷ Ankhkheperure Neferneferuaten yn Thebes (Murnane, 1995) yn awgrymu bod cwlt Amun wedi cael ei ailsefydlu yn Thebes o dan y brenin hwn.

Byddai modrwyau’n cael eu gwneud drwy gastio’r fodrwy a’r besel mewn mowldiau ar wahân (Boyce 1989, 162).

References and Further Reading

Bosse-Griffiths, K. 1980. Two Lute-Players of the Amarna Era. In Journal of Egyptian Archaeology, 66, 70-82. 

Boyce, A. 1989. Notes on the Manufacture and Use of Faience Rings at Amarna. In Kemp, B.J. Amarna Reports V. London: Egypt Exploration Society. 160-168. 

Boyce, A. 1995. Collar and Necklace Designs at Amarna: A Preliminary Study of Faience Pendants. In Kemp, B.J. Amarna Reports VI. London: Egypt Exploration Society. 336-371. 

Krauss, R. 2007. Eine Regentin, ein König und eine Königin zwischen dem Tod von Achenaten und der Thronbesteigung von Tutanchaten, Altoriental. Forschungen, 34 (2007/2), 294–318.

Shaw, I. 1984. Ring Bezels at Amarna. In Kemp, B.J. Amarna Reports I. London: Egypt Exploration Society. 124-132. 

Stevens, A. 2006. Private Religion at Amarna. The Material Evidence. BAR International Series 1587. Oxford: Archeopress. 

 

Amarna ring bezels with cartouches in the Egypt Centre

 

 

css.php