• English
  • Cymraeg

AB29

AB29

Roedd yn rhaid wrth fedr arbennig i lunio gwrthrychau mor hardd â hyn. Mae fflint yn garreg frau a hawdd fyddai torri gwrthrych hardd fel hwn naill ai wrth ei wneud neu wrth ei ddefnyddio. Mae’n naturiol felly gwestiynu a oedd yr eitemau hyn yn arferol o gael eu gwisgo, neu a fyddent yn cael eu cynhyrchu ar gyfer y bedd.

Mae’n ymddangos bod breichledau fflint dauwynebog wedi cael eu cynhyrchu o’r Cyfnod Dynastig Cynnar i mewn i gyfnod yr Hen Deyrnas. Dywedir i weithdy’r arteffactau hyn gael ei leoli yn Wadi el-Sheik (Seton-Karr 1904, 146). Nid yw’n glir a yw’r darnau hyn wedi’u gorffen, neu a fyddent wedi cael eu gloywi (Petrie and Quibell 1896, 59, pl. 75, 100; Schmidt 1989, ffig. 15, 6). Dim ond un enghraifft y gwyddom amdani o Tell Ibrahim Awad yr Hen Deyrnas, er i’r cloddiwr awgrymu y gallai honno fod yn ddyddodiad eilradd o ystyried mai mewn lleoliadau Dynastig Cynnar yr oedd y rhain i’w cael gan amlaf (Schmidt 1992, 88, ffig. 8.51). Roedd gan y corff ym meddrod M14 yn Abydos saith breichled fflint ar ei fraich chwith ac un ar y fraich dde (Petrie 1902, Cyf. I, 16). Mae Emery (1958, III) yn dweud bod beddrod Saqqara 3507 o’r Dynasty Cyntaf (beddrod brenhines Her-nit Djer o bosib) yn cynnwys 8 telchyn o freichledau fflint ac un enghraifft gyflawn. Darganfuwyd hefyd freichledau o ifori, onics a sgist.

Roedd Petrie (Petrie a Quibell 1896) o’r farn bod y breichledau hyn wedi cael eu ffurfio gan gylchoedd oedd yn bodoli’n naturiol “Nodules of flint are to be found in the limestone presenting a resemblance to Saturn with his ring. When the central boss could be detached, the ring would be used. Commonly, however, it appears that rings were found in the gravel already detached, or the division between the boss and the ring so much reduced by solution of the soluble silica so as to admit of easy separation. The finished rings in section shew [sic] a great change at the surface, greater than their age would warrant if made out of flint directly derived from the rock, though just such an amount as might be expected from flint which had lost part of its silica by exposure to the gravel and becomes porous.’’ Gwyddom am o leiaf un enghraifft o freichled fflint a gafodd ei gwneud o gylch fflint a fodolai’n naturiol; mae’n awr yn amgueddfa St Germain-en-Laye (Rhif. 52.651, Beck a Cleyte-Merle 1982, 98). Gwaetha’r modd, nid yw’r enghraifft wedi’i dyddio ond mae o ardal Thebes lle mae llawer o gylchoedd wedi’u ffurfio’n naturiol i’w cael ar y lan orllewinol.

Fodd bynnag, mae darnau hanner eu gorffen wedi’u darganfod, sy’n awgrymu nad dyna’r unig fodd o’u cynhyrchu. Mae Currelly (1913, 272) yn disgrifio ‘half of a flat disc of flint in course of preparation for a bracelet; a small hole was started in the Centre.’ Yn ogystal â hyn, cafwyd disgiau drylliedig a breichrwyau anorffen yn Wadi el Sheik (Rhodes 1970, 8) sy’n dangos bod breichrwyau Eifftaidd yn cael eu cynhyrchu trwy wneud disg o’r trawsfesur cywir ac yna tynnu allan y canol trwy fflawio o bob ochr.

I ddychwelyd at freuder yr eitemau hyn a’r cwestiwn a oeddent yn arferol o gael eu gwisgo, mae T. Baghe (2004: 599) yn dweud mai maint plentyn oedd llawer o freichrywau a breichledau’r Dynasty Cyntaf , a gellir dod i’r casgliad mai cyfarpar beddrod penodol oeddent neu bethau’n perthyn i blentyndod yr ymadawedig oedd wedi’u cadw.

 

Cyfeiriadau

Bagh, T. 2004. First Dynasty Jewellery and Amulets. ‘Finds from the Royal Naqada Tomb: Proposed Reconstructions, Comparisons and Interpretations’. in Hendrickx, S., Friedman K.M. and Cialowiczki M, (eds.) Egypt at its Origins. Studies in Memory of Barbara Adams. Leuven: Peeters, 591-606.

Beck, F. and Cleyet-Merle, J.-J. (1982), Archéologie Comaparée. Catalogue Sommaire des Collections du Musée des Saint-Germain- en-Laye. Collections du Musée Des Antiquities Nationales. Paris.

Currelly, M.T.C., 1913. Catalogue Général des Antiquités Égyptiennes du Musée du Caire. Nos 63001-64906. Stone Implements. Cairo.

Emery, W.B., 1958. Excavations at Saqqara: Great Tombs of the First Dynasty Vol. III London: Geoffrey Cumberlege and Oxford University Press.

Petrie, W.M.F. and Quibell, J.E. 1896. Naqada and Ballas. Warminster: Aris & Phillips : Joel L. Malter.

Petrie, W.M.F., 1902. Excavations at Abydos. London: Royal Anthropological Society.

Rhodes, J.G., 1970. Flint Rings and Egyptain Armlets. Antiquity 44, 145-146.

Schmidt, K., 1989. ‘Die Lithischen Kleinfunde’. In Th. Von Der Way, ed., Tell el-Fara’in Buto. 4. Bericht. MDAIK 45, 300-307.

Schmidt, K., 1992. Tel Ibrahim Awad: Preliminary Report on The Lithic Industries. In Van den Brink, E.C.M. ed., The Nile Delta in Transition 4th-3rd Millenium BC. Proceedings of the Seminar held in Cairo, 21 – 24 October 1990, at the Netherlands Institute of Archaeology and Arabic Studies, Tel Aviv and Jerusalem: Edwin C. M. Van den Brink, 76-96.

Seton-Karr, M.H.W., 1904. Fayum Flint Implements. Annales du service des Antiquites d’Egypte 5, 145-186.

 

css.php