• English
  • Cymraeg

 

W301 Cerflun ysgrifennydd

W301

Cerflun gwenithfaen du yr ysgrifennydd Min-Aha yw hwn.

Mae Min-Aha’n cael ei ddangos â’i goesau wedi’u croesi, fel ysgrifennydd. Roedd ysgrifenyddion yn uchel eu parch yn yr Aifft ac roedd dynion o bwys yn cael eu dangos mewn ystum ysgrifenyddol hyd yn oed os nad oeddent erioed wedi bod yn ysgrifenyddion.

Cloddiodd Robert Mond ac Oliver Myres y cerflun o Armant (Mond a Myers 1937, I 259; II pl. LXX1). Mae felly’n galw ar un o dduwiau Armant, Montu, duw rhyfel gyda phen hebog, sy’n cael ei bortreadu’n aml â disg haul a dwy bluen. Mae cerfluniau o’r fath yn aml i’w cael mewn temlau. 

Ar un adeg roedd y cerflun yn eiddo i Gymdeithas Ymchwil yr Aifft ac yn ddiweddarach prynwyd ef gan Syr Henry Wellcome (Wellcome rhif 153446).

  

Mond, R. and Myers, OH., 1937. Cemeteries of Armant. 2 vols. London: Egypt Exploration Society.

More Armant material in the Egypt Centre

Other Middle Kingdom material

 

 

 

css.php