EC263
Amwled sgarab calon Ramesside neu amwled calon mewn carreg ddu, basalt neu sebonfaen mwy na thebyg. 10cm o hyd a 7cm o led. Mae’r eitem wedi cael llawer o niwed.
Gellir adnabod olion o ben dynol wrth lapedi’r gwallt gosod. Mae coler llydan wedi’i bortreadu o gwmpas y gwddf. Ar y frest y mae disg haul gyda dau hebog ? yn gwisgo coronau oddeutu sarffluniau. Mae’r adar hyn yn wynebu tuag i mewn. Ar y gwaelod y mae sgarab adeiniog. Mae’r tu isaf wedi cael llawer o niwed ac nid oes arysgrif yn weladwy.
Ar amwledau eraill o’r fath, Osiris neu’r ymadawedig yw’r pen. Gan amlaf adar-benu neu adar-ba yn hytrach na hebogiaid sydd ar amwledau o’r fath. Roedd yr aderyn bennu yn aml yn cael ei ystyried fel y ba, neu amlygiad o Osiris, ac mewn rhai testunau dywedir iddo ddod allan o galon Osiris.
Mae sgarabau calon neu amwledau â chysylltiad agos ag Osiris. Roeddent yn cael eu gwisgo gan y mymi i sicrhau na fyddai’r galon yn dwyn tystiolaeth yn erbyn yr ymadawedig. Yn aml byddent wedi’u harysgrifo â Swyn 30 o Lyfr y Meirw a’u rhoi ar ran uchaf corff yr ymadawedig. Mae’n bosib bod ffurf y math hwn o amwled i ryw raddau’n galw ar galon yr ymadawedig, er nad yw’n union yr un ffurf â’r amwled calon ac yn rhannol y sgarab, rhai ohonynt wedi’u portreadu â phennau dynol.
Edrychodd Gee 2009 ar bwysau nifer o sgarabau calon a dangos eu bod yn cyfateb i bwysau Eifftaidd. Ymhellach, esbonia fod swyn 30B o Lyfr y Meirw yn cyfateb yn union i galon pwysau’r glorian ac yn ymwneud â’r cyflyrau trawsffurfiol y mae person yn mynd trwyddynt o enedigaeth i farwolaeth ac ailenedigaeth.
Darllen Pellach
Gee, J. 2009. Of Heart Scarabs and Balance Weights: A New Interpretation of Book of the Dead 30B. The Journal of the Society for the Study of Egyptian Antiquities, 36, 1-15.
Sousa, R. 2007. ‘The heart amulet in ancient Egypt: A typological study’. Goyon, J-C. and Cardin (eds.). Proceedings of the Ninth International Congress of Egyptologists. Vol 1, 713-721. Leuvein, Paris, Dudley.
R. Sousa 2007. ‘The meaning of the Heart Amulets in Egyptian Art’. JARCE 43, 59-70.
Sousa, R. 2011. The Heart of Wisdom: Studies on the Heart Amulet in Ancient Egypt. Oxford: British Archaeological Reports.
A judgment scene with the heart of the deceased