W793
Breichled leiniau o leiniau garned, amethyst a chopr. Y Deyrnas Ganol. O gladdiad menyw yn Qau.
Mae dogfen WA/HMM/CM/col 81 Sefydliad Wellcome yn darllen: ‘Jewellery from an intact XII dynasty burial (female) from Qau, Upper Egypt 1923 tomb number 734 Comprising-…58227 Bracelet (Right arm), garnet, carnelian and copper beads with an amethyst scarab. 4 inch (double)…’. Mae’r label oedd ar y gwrthrych pan ddaeth i’r Ganolfan yn cadarnhau iddo ddod oddi ar y fraich chwith. Ymddengys fod yr eitem hon wedi’i rhoi i Henry Wellcome am ei gefnogaeth i Gloddfeydd Cymdeithas Archwilio’r Aifft.
Mae’r eitem hon yn dod o gloddfa Guy Brunton’s yn Qau (Brunton 1930, 1). Mae adroddiad y gloddfa’n disgrifio: ‘Adult female, extended on left side….On the arms were four strings of beads;….2) small garnet and two amethyst spheroids, one amethyst flattened barrel, four copper rings, and an amethyst scarab….’. Mae gan Ganolfan yr Aifft eitemau eraill o’r bedd hwn (W793-W796), felly hefyd Amgueddfa Petrie (UC25981-5).
Roedd amethyst yn hynod boblogaidd yn y Deyrnas Ganol (Aldred 1978; Andrews 1991)
Darllen pellach
Aldred, C. 1978. Jewels of the Pharaohs: Egyptian Jewellery of the Dynastic Period.
Andrews, C. 1991. Ancient Egyptian Jewellery
Brunton, G. 1930. Qau and Badari III. Llundain: British School of Archaeology in Egypt.