• English
  • Cymraeg

EC644Mowld carreg aderyn gyda phen pluog, aderyn bennu (crëyr) mwy na thebyg. Am fod gan yr eitem ddwy bluen ac oherwydd lleoliad ei adenydd, mae’n edrych yn debycach i aderyn bennu nag i gornchwiglen.

Am wybodaeth ar yr aderyn bennu gweler Tolmatcheva (2003, 522-526). Aderyn creu yw’r aderyn bennu, ba Re duw’r haul a phrototeip y ffenics. Mae chwedl Eifftaidd yn sôn am aderyn bennu yn hedfan dros ddyfroedd Chaos, dyfroedd y Nun, ar ddechreuad amser. Torrodd ei gri ar y distawrwydd cynoesol.

Mae gwrthrych tebyg iawn sy’n ymddangos fel aderyn bennu (ffenics) yn Aufrère (1987 Rhif 196). Mae George Steindorf 1946 yn disgrifio rhif 360 fel mowld cornchwiglen (aderyn bennu). ‘Similar moulds were put into tombs of the later period at the necropolis of Memphis; purpose and religious significance unknown’. Hefyd cafwyd nifer o fowldiau o’r fath, yn perthyn i’r Cyfnod Diweddar, yn Abydos (Peet 1914, 96, ffig. 58, pl. XXL).

Mae rhai wedi awgrymu bod mowldiau o’r fath yn cael eu defnyddio i gynhyrchu eitemau o faience a gwydr. Fodd bynnag, mae hefyd wedi cael ei awgrymu y gallai’r mowldiau hyn sydd yn bennaf ar ffurf ffigyrau cysylltiedig ag atgyfodiad fel adar bennu, wyau a ffigyrau o Osiris fod yn symboleiddio ailenedigaeth drwy fowldio’r mymi. Cafwyd mowld cyfan yn cynnwys deunydd mymi ym medd Cyfnod Diweddar Prif Stiward duwies-wraig Amun, Nitokris II (Bietak and Reiser-Hauslauer 1982, 189).

Yng nghist cerrig y Ganolfan mae mowld sy’n dangos ffigwr o Osiris (EC660).

 

Cyfeiriadau

Aufrère, S. 1987. Collections Egyptiennes. Collections des Musées départment aux Seine-Maritime.

Bietak, M and Reiser-Hauslauer, E. 1982. Das Grab des Anch-hor Obermeister der Gottesgemahlin Nitokris II. Wien: Österreichische Akademie der Wissenschaften.

Peet, T.E. 1914. The Cemeteries of Abydos II. London: Egypt Exploration Fund.

Steindorf, G. 1946. Egyptian Sculpture In the Walters Art Gallery. Baltimore: Trustees of the Walters Art Gallery.

Tolmatcheva, E.G. 2003. A reconsideration of the Benu-bird in Egyptian Cosmogony. In Hawass, Z. and Brock, P.L. 2003. Egyptology at the Dawn of the Twenty-First Century Vol. 2, 522-526.

css.php