• English
  • Cymraeg

 

Yn y Ganolfan Eifftaidd, cewch gwrdd â ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd, ymuno â llwybr gyrfa, a mwynhau’r boddhad o helpu i redeg yr unig amgueddfa Eifftaidd yng Nghymru! Mae gennym ddosbarthiadau Eifftoleg arbennig am ddim i’n gwirfoddolwyr, a gallwch fenthyg llyfrau o’n llyfrgell.

 

Mae dwy ffordd i gymryd rhan, gallwch wirfoddoli neu wneud leoliad gwaith:

 

Mae gwirfoddoli’n ymrwymiad rheolaidd dros gyfnod o amser a wneir am ddim i’r amgueddfa. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwirfoddoli rhwng 3 ac 17 awr y mis. Gallwch wirfoddoli o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn, 10am-4pm. Mae croeso i bawb (10-99+ oed).

 

Mae lleoliad gwaith yn rhaglen waith ddwys fyrrach (amser llawn fel arfer) sy’n ddi-dâl ac sy’n rhoi syniad ymarferol i chi o’r hyn yw gweithio mewn amgueddfa fel gweithiwr blaen tŷ. Gall lleoliadau gwaith bara o wythnos – eich dewis chi ydyw. Mae ein lleoliadau gwaith ar agor i bobl 14 oed ac yn hŷn.

Pa bynnag ffordd rydych am gymryd rhan, byddwch yn ymuno â thîm o wirfoddolwyr dynodedig sy’n ehangu drwy’r amser ac sy’n dwlu gweithio yn ein hamgueddfa. Gobeithio y byddwch chi hefyd!

 

Am ragor o wybodaeth am wirfoddoli yn y Ganolfan Eifftaidd, cysylltwch â Rheolwr Gwirfoddoli’r Amgueddfa, Syd Howells:

 

 

Syd Howells

Y Ganolfan Eifftaidd, Amgueddfa Henebion yr Aifft

Prifysgol Abertawe

Abertawe

SA2 8PP

Ffôn: 01792 606065

E-bost: l.s.j.howells@abertawe.ac.uk

 
css.php