• English
  • Cymraeg

 

WK44

WK44

Daeth y gloch hon atom yn ddiweddar fel rhan o fenthyciad o Goleg Woking. Mae wedi’i gwneud o faience gwyrdd golau, ar ffurf pen Bes gwag hanner cylch gyda choron o blu a thwll i’w hongian yn ogystal â thwll arall, fwy na thebyg ar gyfer tafod y gloch. Mae’r tafod ei hun ar goll. Un dull o osod tafod y gloch yn yr Hen Aifft oedd gwthio pin hollt drwy’r twll ar frig y gloch, islaw’r ddolen (Anderson 1976, 29).

Yn ôl y rhestr sy’n cyd-fynd â’r gwrthrychau, mae’r eitem benodol hon yn dyddio o’r 22ain Frenhinlin (945-715BC), ond gallai hyn fod yn anghywir. Gallai fod ychydig yn ddiweddarach. Fel arfer mae faience gwyrdd golau fel hwn yn dyddio o’r Cyfnod Hwyr a’r Cyfnod Ptolemaidd (747-30BC). Mae’r ffaith ei bod wedi’i gwneud o faience yn awgrymu ei bod yn eitem addunedol neu amwledig. Byddai faience yn fregus pe bai’n cael ei ysgwyd yn egnïol.

Y peth tebycaf i ni ei weld sy’n argyhoeddi yw enghraifft yn yr Amgueddfa Brydeinig o gloch faience ar ffurf pen Bes gyda phenwisg plu (EA1963,1112.25; Anderson 1976, 38, 47, ffig. 66). Fodd bynnag, ceir cloch faience gwyrdd golau arall ar ffurf pen Bes yng nghasgliad Carnarvon-Carter yng Nghastell Highclere (H9) (Reeves 2008-2011).  

Clychau efydd yw’r clychau mwyaf cyffredin yn yr Hen Aifft, ac mae enghreifftiau efydd â phen Bes i’w cael hefyd (e.e. BM EA1847,0806.161; Amgueddfa Brydeinig EA38160; Amgueddfa Brydeinig EA6374; Anderson 1976, 32, 33, ffig.48 ac Amgueddfa Cairo JE53326). Mae gan Amgueddfa Petrie hefyd nifer o glychau efydd tebyg i’n cloch ni (UC52168, UC52169, UC33266, UC8976). Mae Petrie yn eu dyddio o’r 26ain Frenhinlin i’r Cyfnod Rhufeinig (Petrie 1914, 28, ffig. 124; gweler hefyd Petrie 1927, 58, pl. L rhifau 299 a 300). Mae gan amgueddfa Petrie hefyd glychau faience heb bennau Bes o’r Cyfnod Rhufeinig (UC59163). Gwyddom am glychau efydd plaen, gan gynnwys enghreifftiau ar raddfa fach, o Fayum a Karanis yn dyddio o’r ail i’r bedwaredd Ganrif OC (gweler hefyd enghreifftiau yn Anderson 1976).

Yn achlysurol bydd duwdodau eraill i’w gweld ar glychau. Er enghraifft mae Sobek, Khnum, Hathor a Bes ar EA69537. Ar EA38160 gwelir hwrdd, llewes, siacal a Bes.

Cysylltir y duwdod Bes fel arfer ag offerynnau taro, fel arfer y drwm llaw/tambwrîn, ac ambell waith telyn.

Yn ddiddorol, awgrymodd Petrie (1914, 58) fod clychau Bes yn amwledig ac o bosibl yn cael eu gwisgo gan blant am eu gyddfau i’w gwarchod. Roedd Bes yn dduwdod gwarchodol, yn enwedig i fenywod yn esgor a phlant bach. Yn ogystal atgyfnerthir natur warchodol y clychau hyn gan yr enghreifftiau yn yr Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa Cairo (BM EA1963,1112.25 a JE53326 yn eu tro) sy’n cynnwys nid yn unig Bes, ond hefyd anifeiliaid eraill fel madfall (fel pe bai i ddiogelu yn erbyn pethau peryglus o’r fath). Defnyddir clychau mewn llawer o ddiwylliannau i warchod rhag drwg.

Yn anffodus, ni wyddom am unrhyw enghreifftiau o glychau pen Bes gyda tharddiad penodol, felly nid wyf i’n gwybod a ydynt yn swyndlysau domestig neu efallai’n offrymau addunedol i’w gosod mewn temlau. Fodd bynnag, mae clychau efydd plaen wedi’u canfod mewn claddfeydd (Gadalla 2007, 218) yn ogystal â mewn aneddiadau (Amgueddfa Brydeinig EA82646). Ym Matmar y cyfnod Hwyr a Ptolemaidd, canfuwyd dwy gloch efydd mewn claddfeydd (Brunton 1948, 76 a 91). Roedd un mewn bedd plentyn (Brunton 1948, 91) a chanfuwyd y llall ar gadwyn o gwmpas gwddf menyw (Brunton 1948, 76). Canfuwyd trydedd gloch bosibl, wedi cyrydu’n ddrwg, ar frest y fenyw. Mae Petrie’n disgrifio clychau efydd plaen, yn bennaf mewn claddfeydd plant (Petrie 1906, 39, 40, 41, 42, 45), mae’r cynharaf i’w gweld yn dyddio o’r 23ain Frenhinlin (Petrie 1906, 17, 18, pl. XIXA).

Yn olaf, mae’n bosibl fod pennau cloch Bes yn gysylltiedig ag eitemau eraill sy’n dangos mygydau Bes. Byddai swyddogaeth y gwrthrych hwn fel cloch wrth gwrs yn golygu y byddai pen Bes ar ei ben ei hun yn addas ar gyfer amwled. Ond mae’n ymddangos bod gan eitemau Eifftaidd hynafol eraill ben Bes ar ei ben ei hun hefyd. Mae amwledau yn siâp pen Bes yn unig, yn hytrach na’i gorff cyfan, yn gyfarwydd o’r Trydydd Cyfnod Canolradd ymlaen (c.1000BC ymlaen). Hefyd ceir drychau a fasys wedi’u haddurno ag wyneb Bes (Ballod 1913, 91-3). Roedd cippi gyda mwgwd Bes uwchben Horus y Plentyn yn boblogaidd yn y Cyfnodau Groegaidd-Rufeinig Hwyr. Mae mygydau Bes hefyd wedi’u canfod o gyfnod y Deyrnas Newydd ymlaen (e.e. Manceinion 123; Volokhine 1994: 82-4), er ei bod yn ymddangos bod y rhain o leiaf ambell waith yn rhan o ensemble cyflawn yn cynnwys dillad. Byddem yn falch i glywed am ragor o enghreifftiau.

 

 

Anderson, R.D. 1976 Catalogue of Egyptian Antiquities in the British Museum III, Musical Instruments. London.

Brunton, G. 1948. Matmar. London.

Gadalla, M. 2007. The Ancient Egyptian Culture Revealed. Greensboro.

Petrie, W.M.F. 1906. Hyksos and Israelite Cities. London.

Petrie, W.M.F. 1914. Amulets. London.

Petrie, W.M.F. 1927. Objects of Daily Use. London.

Eitemau eraill sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth yn y Ganolfan Eifftaidd

css.php