• English
  • Cymraeg

W648

W648

 

Ailenedigaeth wrth i’r haul godi yn y bore.

Mae’r darn hwn o arch yn dangos Khepri (chwilen sgarab, sy’n cynrychioli’r haul newydd-anedig) yn cael ei gofleidio neu ei ddal yn yr awyr gan ddisg yr haul sy’n cynrychioli’r duw Osiris wedi’i heulo (aileni).[i] Mae’n dyddio o gyfnod cynnar cyntaf yr Ail Frenhinlin ar Hugain (c. 943–800 C.C.) a chafodd ei brynu o gasgliad Hood gan Henry Wellcome mewn arwerthiant ym 1924.[ii]

Roedd sawl enw gan ddisg yr haul: Khepri (sy’n golygu ‘yr hwn a ddaw i fodolaeth’) yn y bore, Re ar ganol dydd, ac Atum gyda’r hwyr. Roedd Khepri’n gysylltiedig â chreu ac ailenedigaeth Osiris. [iii] Cyfeirir ato am y tro cyntaf yn Nhestunau’r Pyramidau o’r Pumed Frenhinlin ac, o gyfnod y Deyrnas Ganol ymlaen, roedd niferoedd enfawr o amwledau’n cael eu cynhyrchu.

AR W648, cynrychiolir y Byd Arall gan yr wybren wedi’i darlunio ar ffurf hirgrwn.[iv] Ar ddwy ochr disg yr haul, gwelir enghraifft o anc, sef yr hieroglyff ar gyfer bywyd. Mae dau fod duwiol, yr un ar y chwith â’r bluen yn cynrychioli’r Gorllewin a’r un ar y dde yn cynrychioli’r Dwyrain, yn eistedd ar arwyddion per (sy’n dynodi tai) ac yn cynnig bara.[v] Rhyngddynt, ceir yr arwydd am fryn a gwelir pelydrau’r haul yn codi uwch ei ben.[vi]

Mae disg yr haul yn cofleidio sgarab i’w weld ar sawl arch a phapyrws o’r Trydydd Cyfnod Canol. Er enghraifft, ar gaead arch o’r Unfed Frenhinlin ar Hugain (1069-945 C.C) yn yr Amgueddfa Brydeinig, mae disg haul adeiniog yn cofleidio sgarab rhwng y ddau lew sy’n symboleiddio’r gorwel.[vii] Mewn enghreifftiau o’r fath, mae’n bosib bod disg yr haul yn cynrychioli Horus o Edfu (t. 00). Fel arfer, byddai dau sarfflun gan y disg. Yma, yn lle hynny, gwelir dwy fraich i amlygu cofleidiad bywhaol yr haul newyddanedig yn amddiffyn yr olygfa oddi tano. Mae’r nodwedd yn gyson â sawl llyfr angladdol, yn enwedig Swyn 15 yn Llyfr y Meirw, awr olaf yr Amduat a Llyfr yr Ogofâu.[viii]

Mewn sawl darluniad o Lyfr y Meirw 15 sy’n dyddio o’r Deyrnas Newydd, cofleidir yr haul gan ffigur benywaidd. Dynodir ei rhyw gan ei bronnau neu gan symbolaeth duwies y gorllewin.[ix] Mae duwies y gorllewin yn derbyn yr ymadawedig a chaiff ei chynrychioli ar ffurfiau amrywiol, fel Nut yn aml, neu weithiau fel Hathor ar ffurf buwch yn dod allan o fynyddoedd Thebes.[x] Mewn un enghraifft o’r Deyrnas Newydd, mae’r piler djed, sy’n cynrychioli Osiris, a duwies yn dyrchafu neu’n cofleidio disg yr haul.[xi]. Fodd bynnag, o’r Deyrnas Newydd ymlaen, ac yn gynyddol aml yn y Trydydd Cyfnod Canol, mae Swyn 15 o Lyfr y Meirw yn cael ei ddarlunio ag Osiris ar ffurf piler djed a’i freichiau’n croesawu’r sgarab wrth iddo godi o orwel y bore.[xii]

Gwelir enghraifft arall yn debyg i’r olygfa ar W648 yn Llyfr yr Ogofâu lle rhoddir pwyslais cynyddol ar Osiris fel y duw cofleidiol, fel yn Llyfr y Meirw. Ceir golygfa sy’n dangos ffigur benywaidd yn cofleidio’r haul mewn darluniad o Lyfr yr Ogofâu o fedrodd Rameses VI (1145-1137 C.C.).[xiii]. Fodd bynnag, ym medrodd Tauseret o gyfnod cynharach (KV 14), mae disg yr haul, ar y cyd â’r sgarab, yn codi o’r gorllewin (c. 1220-1188 C.C.)[xiv] Mae’r motiff yn Llyfr yr Ogofâu yn crybwyll Osiris di-ben, wedi’i heulo ac wedi’i adfywio’n rhywiol, pen Osiris ar ffurf disg haul.[xv] Mae amrywiad o’r motiff ag ystyr tebyg yn dangos breichiau gwrywaidd Osiris yn dyrchafu cwch yr haul.[xvi] Ceir golygfeydd tebyg yn Llyfr yr Ogofâu o’r Deyrnas Newydd a Llyfr y Pyrth. Cysylltir Osiris â Shu sy’n dyrchafu cwch dydd duw’r haul. [xvii]  Gellid cyfieithu’r cwch dydd fel y disg neu’r sgarab newydd-anedig

Yn olaf, mae golygfa W648 yn gysylltiedig â golygfeydd Amduat lle rhennir oriau’r nos yn ôl camau aileni’r duw. Yn aml mae darluniadau o’r awr olaf yn dangos Osiris ar ffurf ithyffalig ac wedi’i fymïo.[xviii]. Daethpwyd o hyd i’r enghraifft gynharaf ym medrodd Tuthmosis I (c. 1526–1513 C.C.) lle mae breichiau’n ymestyn tua’r sgarab ar ddiwedd taith y nos. Mae’r defnydd cyffredinol o olygfeydd Amduat ar eirch yn arbennig o gyffredin o’r Trydydd Cyfnod Canol.

Felly, mae’r olygfa ar W648 yn cynrychioli breichiau’r duw Osiris wedi’i heulo (Re ac Osiris wedi’u cyfuno) yn codi o’r Byd Arall ac yn dyrchafu haul y bore, Khepri.[xix]. Cafodd y syniad ei ddefnyddio mewn sawl llyfr angladdol o’r Deyrnas Newydd ymlaen. Daw Osiris a’r sgarab yn gynyddol gysylltiedig ac, erbyn yr Unfed Frenhinlin ar Hugain, mae enghreifftiau o Khepri yn cofleidio disg yr haul yn hynod gyffredinol.[xx]

Roedd y weithred o gofleidio yn uno ac yn adfywio Re ac Osiris. [xxi] Byddai’r ymadawedig yn teithio drwy’r Duat i gael ei aileni yn y bore, gan efelychu aileni Re/Osiris. Disgrifir pŵer cenhedlol breichiau’n cofleidio yn Nhestunau’r Eirch.[xxii] Yn ôl un myth, creodd Atum Shu a Tefnu drwy eu cofleidio a rhoi ei ‘rym bywiol’, [ka] iddynt. Roedd y weithred o gofleidio’n trosglwyddo grym ka ac roedd yn gyfrwng amddiffyn, cenhedlu ac adfywio rhywiol. Dangosir brenhinoedd yn cael eu cofleidio gan dduwiau. Mae’r olygfa yn debyg i’r cysyniad a gynrychiolir ar ddarn arall o arch yn y Ganolfan Eifftaidd, W1056.

 

[i]Am wybodaeth am Khepri, gweler Martina Minas-Nerpel, Der Gott Chepri. Untersuchungen zu Schriftzeugnissen und ikonographischen Quellen vom Alten Reich bis in griechisch-römische Zeit. Orientalia Lovaniensia Analecta 154 (Leuven, 2006).

[ii] Ymwelodd William Frankland Hood â’r Aifft sawl gwaith rhwng 1851 a 1861. Cadwyd y rhain gan y teulu yn Neuadd Nettleham, Swydd Lincoln, ar ôl ei farwolaeth ond fe’u gwerthwyd mewn arwerthiant gan Sotheby’s ar 11 Tachwedd 1924.

[iii]Minas-Nerpel, Der Gott Chepri, tt. 152, 453–62.

[iv]Günther Lapp, Die Vignetten zu Spruch 15 auf Totenpapyri des Neuen Reiches (Basel, 2015), t. 5.

[v] Am ddarluniadau o offrwm y Dwyrain a’r Gorllewin, gweler Lapp,Die Vignetten zu Spruch 15, tt 29–30. Mae Lapp yn dangos sawl enghraifft arall o’r haul yn codi, wedi’i ddarlunio rhwng symbolau’r Dwyrain a’r Gorllewin

[vi] Gardiner arwydd N28.

[vii] Rhif caffael: EA229441: http://www.britishmuseum.org/research/collection_online/collection_object_details/collection_image_gallery.aspx?partid=1&assetid=409410&objectid=117259 adalwyd Mehefin 2015.

[viii] Am enghreifftiau yn Llyfr y Meirw gweler Lapp, Die Vignetten zu Spruch 15, t. 24. Gweler y gyfrol hon, tt. 00-00 am ddarluniad hwyr o Lyfr y Meirw 15, er ei fod hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd yr haul yn yr olygfa hon. Am ddarluniadau mwy nodweddiadol o fersiynau o’r Cyfnod Hwyr, gweler Budek, ‘Die Sonnenlaufszene’. Yn y rhain, mae Osiris yn codi disg yr haul ag adar ba ar bob ochr.

[ix]Rune Nyord, Breathing Flesh. Conceptions of the body in the ancient Egyptian Coffin Texts. (Copenhagen, 2009), t. 252.

[x]Éva Liptay, Coffins and Coffin Fragments of the Third Intermediate Period (Budapest: Amgueddfa’r Celfyddydau Cain, 2011b). Mae gwreiddiau’r motiff hwn, sy’n dangos Hathor ar ffurf buwch, yn y Deyrnas Ganol gyda Thestun Arch 486; Liptay, ‘Between Heaven and Earth’, t. 19.

[xi]Mae beddrod Nefersecheru o’r Deyrnas Newydd (TT 296) yn dangos Osiris a’r duw Nut yn cofleidio disg yr haul. Mae’r pennawd yn dweud bod Re ac Osiris wedi’u cysylltu. Am yr un olaf gweler Lapp, Die Vignetten zu Spruch 15, t. 26, ffigur 37.

[xii]Am enghraifft ar Lyfr y Meirw o’r Ddeunawfed Frenhinlin Userhat (Amgueddfa Brydeinig EA0009): John Taylor, Journey Through the Afterlife. (Llundain, 2010), t. 239, ffigur. 20. Am ragor o olygfeydd o’r Deyrnas Newydd, gweler Lapp, Die Vignetten zu Spruch 15. Mae Lapp yn dangos dwy ddelwedd o ddisg haul yn cofleidio sgarab (tt. 48, ffigur 78 a 91, ffigur 131) o arch a choflech o gyfnod Rameses. Mae hefyd yn dangos delwedd o’r darn o arch o’r Ganolfan Eifftaidd ar dudalen 5. Am biler djied yn dal disg haul, gweler t. 74. Mae’r enghraifft a geir yng ngwaith Lapp yn dyddio o’r Unfed Frenhinlin ar Hugain (h.y. Amgueddfa Field Chicago 31759).

[xiii] Am yr enghraifft hon a darluniadau eraill o Lyfr yr Ogofâu, gweler Joshua Roberson, The Ancient Egyptian Books of the Earth (Wilbour Studies in Egypt and Ancient Western Asia) (Atlanta, 2012).

[xiv]http://thebanmappingproject.com/database/image.asp?ID=14622&NZ=1 (adalwyd Mai 2015).

[xv]Colleen Manassa, The Late Egyptian Underworld: Sarcophagi and Related Texts from the Nectanebid Period. Ägypten un altes Testament 72 (Weisbaden, 2007), tt. 39-41; Darnell, Enigmatic Netherworld Books, tt. 114–7.

[xvi] Jan Assmann, Der König als Sonnenpriester. Ein kosmographischer Begleittext aur kultischen Sonnenhymnik in thebanischen Tempeln und Gräbern (Glückstadt, 1970), tt. 43–4, troednodyn 4.

[xvii]É. Liptay, ‘Between heaven and earth II/1. The iconography of a 21st Dynasty Funerary Papyrus. (Rhif rhestr eiddo 51.2547)’, Bulletin du Musée Hongrois des Beaux-Arts, 104 (2006), t. 42–3. Mae hyn yn adeiladu ar y cysylltiadau a wneir gan Assmann, Der König als Sonnenprieste.

Mae Budek yn gweld dylanwad Llyfr y Pyrth ar yr olygfa o Lyfr y Meirw Swyn 15. J. Budek, ‘Die Sonnenlaufszene. Untersuchungen zur Vignette 15 des Altägyptischen Totenbuches während der Spät- und Ptolemäerzeit’, Studien zur Altägyptischen Kultur 37 (2008), 19–48.

[xviii]Liptay, ‘Between heaven and earth’ t. 38.

[xix]Mae codiad beunyddiol yr haul a’i gysylltiad â ba Orisis yn amlwg hefyd mewn golygfeydd sy’n dangos gwahaniad y nef a’r ddaear, fel y’i disgrifir yn y gyfol hon tt. 00–00.

[xx]Am newidiadau o’r Deyrnas Newydd i’r Unfed Frenhinlin ar Hugain: Darnell, Enigmatic Netherworld Books, tt., 417–8. Am enghraifft ganolog ar bapyrws, gweler: Liptay, ‘Between heaven and earth II/1. The iconography of a 21st Dynasty Funerary Papyrus’.

Am enghreifftiau ar eirch, gweler Budapest 5096/1-2 yn É. Liptay, ‘Between Heaven and Earth. The motif of the cow coming out of the mountain’, Bulletin du Musee Hongrois des Beaux-Arts, 99 (2003), tt. 54, 56-57, pl.11 (ar gyfer motiff Hathor ar ffurf buwch a mynydd). Mae disg yr haul â breichiau yn ymddangos hefyd y tu mewn i arch Hennutawy yn yr Amgueddfa Gelf Fetropolitan, wedi’i ddarlunio yn Erik Hornung, Idea into Image (wedi’i gyfieithu i Saesneg gan Elizabeth Bredeck), (Efrog Newydd, 1992), t. 137. Ar arch arall o’r Unfed Frenhinlin ar Hugain, mae duw, sy’n amlwg yn wrywaidd, yn dod allan o’r akhet gan ddal disg yr haul yn yr awyr, â sgarab y tu mewn iddo: Piankoff, A. a Rambova, N., Mythological Papyri I (Efrog Newydd: Bollingen, 1957), t. 26, ffigur. 8. Gweler hefyd Darnell, Enigmatic Netherworld Books, t. 391–2, 402–5, 396 am Osiris yn dyrchafu’r haul ac yn estyn ei freichiau tuag ato.

Am fotiff disg yr haul â breichiau ar bapyri o’r Unfed Frenhinlin ar Hugain, gweler: Andrzej Niwiński, Studies on the illustrated Theban funerary papyri of the 11th and 10th centuries BC. Orbis Biblicus et Orientalis 86 (Freiberg, 1989), t. 140, ffigurau 26a, 41 a 76; Liptay ‘Between heaven and earth’ tt. 39–41, ffigur 5. Mae’r sgarab yn bresennol yn yr enghraifft olaf.

[xxi]C. Desroches-Noblecourt ‘Poissons, tabous et transformations du mort. Nouvelles considérations sur les pélérinages aux villes saintes’ Kêmi 13 (1954), 33–42 a Shonkwiler, ‘The Behdetite’, t. 482, 494.

[xxii]Nyord, Breathing Flesh, t. 253.

 

 

css.php