• English
  • Cymraeg

W4W5

Breichledi Cregyn

Prynwyd yr eitemau hyn gan Wellcome mewn arwerthiant ym 1920 ynghyd â dwy freichled a wnaed o garreg. Mae label yr arwerthiant ar yr arteffactau’n dweud eu bod nhw’n dod o Gebelein. Cafodd mynwentydd cynfreninlinol Gebelein eu hysbeilio dros sawl blynedd ac mae’n bosib bod yr eitemau hyn yn deillio o’r gweithgarwch hwn.

Mae eitemau o’r fath yn dyddio o’r Cyfnod Cynfreninlinol i’r Cyfnod Frenhiniaeth Gynnar. Mae Kemp (1967) yn datgan i freichledi cregyn gael eu gwneud drwy dorri cylch cul o waelod cregyn gastropod (Conws) mawr.

Yn ôl T. Baghe (2004: 599), mae llawer o’r breichledi o’r Frenhinlin Gyntaf yn faint plant, a allai awgrymu eu bod yn offer beddau’n benodol neu eu bod yn arfer cael eu cadw fel eiddo plentyndod yr ymadawedig. Gellid ychwanegu bod cynnwys breichledi bregus a wnaed o fflint mewn beddau’n awgrymu bod breichledi’n offer beddau’n benodol mewn rhai achosion.

Mewn cyfnodau hwyrach, gelwid y gregyn fôr yn ‘garreg ymyl y dŵr’ gan yr Eifftiaid (Mumford 2012, 114).

Darllen pellach  

Bagh, T. 2004. First Dynasty Jewellery and Amulets. ‘Finds from the Royal Naqada Tomb: Proposed Reconstructions, Comparisons and Interpretations’. yn Hendrickx, S., Friedman K.M. a Cialowiczki M, (golygyddion) Egypt at its Origins. Studies in Memory of Barbara Adams. Leuven: Peeters, 591–606.

Kemp, B. 1967. ‘Appendix 6. Shell Bracelets in Egypt’ yn C.B.M. McBurney. The Haua Fteah ( Cyrenaica ) and the Stone Age of the South-east Mediterranean, 374–5.

Mumford, G. 2012. Ras Budran and the Old Kingdom trade in Red Sea shells and other exotica, British Museum Studies in Ancient Egypt and Sudan 18, 107–45.

Needler, W. 1984. Predynastic and Archaic Egypt in The Brooklyn Museum. Brooklyn: Amgueddfa Brooklyn, t. 314–315

 

Eitemau eraill o Gebelein yn y Ganolfan Eifftaidd

Other items of jewellery

Other Predynastic items

A-Group shell bracelets

css.php