• English
  • Cymraeg

 

W344a

Grawnwin faience tua 5cm o hyd.

Roedd pob grawnwinen yn cael ei gwneud o ddau ddarn yn union yr un fath fyddai’n cael eu tynnu o’r mowld, eu lled-sychu a’u cysylltu â llaid cyn eu tanio. Mae sypiau o rawnwin i’w canfod mewn sypiau gwasgaredig yn Amarna, a hefyd mewn safleoedd eraill (gall ein rhai ni fod o Amarna, ond efallai nad ydynt o’r ddinas honno). Maent i’w cael yn y Deyrnas Newydd. Cafodd hanner uchaf un ochr o’r swp ei dynnu i ffwrdd a thyllwyd yr ochr arall i’w chysylltu â thrawst.

Cafwyd swp o rawnwin faience (6.5cm o hyd) mewn cysegr/beddrod gardd – T36.11 yng nghloddiadau 1929, rhif gwrthrych 29/239 (Frankfort a Pendelbury 1933, 25). Ymddengys fod nenfwd y beddrod wedi’i addurno â grawnwin wedi’u peintio. Awgrymwyd fod beddrodau gardd yn gysylltiedig â’r teulu brenhinol (Stevens 2006, 253). Mewn mannau eraill, ymddengys fod grawnwin wedi’u defnyddio i addurno’r orsedd frenhinol neu fel gwaddodion sylfeini (Brovarski et al. 1982, 42). Gallent fod yn symbol o’r frenhiniaeth. Gweler hefyd Friedman, F.D. 1998, 189-190.

Cyfeiriadau a darllen pellach

Brovarski, E. Doll, S.K. and Freed, R. E. 1982. Egypt‘s Golden Age. The Art of Living in the New Kingdom. 1558-1085 BC. Boston: Museum of Fine Arts Boston.

Frankfort, H. and Pendlebury J.D.S. 1933, The City of Akhenaten Part II, The north suburb and the desert alters: the excavations at tell el-Amarna during the seasons 1926-1932. London: Egypt Exploration Society.

Friedman, F.D. ed. 1998. Gifts of the Nile Ancient Egyptian Faience. London: Thames and Hudson.

Stevens, A., 2006. Private Religion at Amarna. The Material Evidence. BAR International Series 1587. Oxford: Archeopress.

A wine jar from Amarna

Viticulture in ancient Egypt

Eitemau eraill o Amarna yn y Ganolfan Eifftaidd

css.php