• English
  • Cymraeg

 

w2054b

Coes tarw o stôl. Gan y defnyddid stolau coesau teirw am gyfnod hir yn hanes yr Aifft, maent yn anodd i’w dyddio.

Yn aml, ceir coesau dodrefn buchol ym meddau brenhinol yr Oes Freninlinol Gynnar. Awgrymwyd bod hyn oherwydd y cysylltiad rhwng y brenin a’r tarw (er enghraifft, caiff y brenin ei bortreadu fel tarw ar Balet Narmer). Yn hwyrach, cawsant eu copïo gan y bendefigaeth.

Credir mai coesau stôl yn hytrach na gwely yw’r rhain gan eu bod yn ymddangos i fod yn rhy uchel i fod o wely. Mae’n bosib mai stolau oedd y math mwyaf cyffredin o ddodrefn yn yr Hen Aifft gan ei bod hi’n hawdd eu cludo ac nid oes angen llawer o bren.

Nid ydym yn gwybod o ba bren y gwnaed y rhain, er ymddengys mai acasia oedd y goeden frodorol Eifftaidd a ddefnyddid gan amlaf.

Prynwyd yr eitemau hyn gan Syr Henry Wellcome o gasgliad Rustafjaell ym 1906.

 

Darllen pellach:

G.P. 1980 (cyfrol 1), 1994 (cyfrol 2), Ancient Egyptian Furniture. Warminster: Aris a Phillips.

G.P. 1994, Egyptian Woodworking and Furniture. Princes Risborough: Shire Egyptology

 

css.php