• English
  • Cymraeg

w1283

Llestr crochenwaith wedi’i wneud o farl, 13.2cm o uchder. Dyma fâs Bes o’r Cyfnod Ptolemaidd.

Llestr arddulliedig yw hwn. Ceir llestri o’r fath ym Mhalesteina yn ogystal ag yn yr Aifft. Ni wyddom ar gyfer beth y byddai’r llestri hyn yn cael eu defnyddio. Awgrymir eu bod yn arfer cynnwys gwin neu laeth a fyddai’n cael ei yfed yn ystod gwyliau.

Gweler Kaiser 2003 i gael gwybodaeth am y math hwn o lestr. Roedd Kaiser yn credu bod y math hwn o lestr yn cael ei wneud mewn un gweithdy yn Saqqara, yn ôl pob tebyg. Mae’n dyddio i’r Cyfnod Ptolemaidd.

Ar gyfer jariau tebyg, gweler: Arnold a Bourriau 1992, ffig. 100F a Beck et al. 2005, 534.

Ymddengys fod Bes wedi bod yn dduw gwarcheidwol a oedd yn gysylltiedig â phlant a merched wrth esgor.

Mae’n ymddangos bod ein llestr ni wedi bod yn rhan o Gasgliad MacGregor a brynwyd gan Henry Wellcome ym 1922. Awgryma cerdyn catalog cynnar y gallai’r eitem fod wedi dod o Bubastis.

Llyfryddiaeth

Arnold, D. a Bourriau, J., 1993 An Introduction to Ancient Egyptian Pottery, Mainz.

Beck, H., Bol, P. C.a Bückling, M. 2005, Ägypten Greichenland Rom Abwehr und Berühung Städelsches Kunstinstitut und Städische Galerie, 2005-2006 (catalog Arddangosfa), Frankfort.

 

 

css.php