• English
  • Cymraeg

W1151

Darn o fefel modrwy sy’n dod o Amarna yw hwn. Rhoddwyd ef i’r Ganolfan Eifftaidd gan yr Amgueddfa Brydeinig ym 1978. Ynghyd â W1150a a W1155, mae’r befelau hyn yn arbennig am eu bod yn rhan o’r grŵp a ddefnyddiwyd i ddarlunio’r ‘new corpus’ a restrwyd gan Frankfort a Pendlebury (1933: 115-117, pl. XLIX).

Darn o fefel rwyllwaith yw W1151 yn dangos, o’r ochr, ffigwr gyda chynffon hir yn dawnsio neu’n brasgamu ac yn edrych i’r dde. Mae’n union yr un fath â’r befel sy’n cael ei ddarlunio yn Frankfort a Pendlebury pl. XVIX.5 a XLIX .ID25 sydd o T.36.15 ym Maestrefi’r Gogledd (Frankfort a Pendlebury 1933: 84, 115 a plâu. XVIX.5 a XLIX .ID25). Mae tudalen 51 yn dweud am T.36.15 ‘These miserable hovels require little description. The only one with any pretension is 15, with a red-yellow-red niche in the central room.’ Fodd bynnag, mae Boyce (1995: 358) wedi awgrymu, o ystyried cymaint o fowldiau tlyswaith faience sydd wedi’u darganfod o gwmpas ardal fel T36, ei bod yn debygol mai ardal gynhyrchu yw hon.

Mae’r ffaith mai darn yn unig sydd yma yn golygu y gall fod naill ai’n Bes neu’n fwnci. Am bortreadau tebyg o Bes o’r ochr gweler Stevens (2006: 32, ffig. 11.2.2). Mae 19 o fefelau modrwy o Amarna wedi’u cofnodi gan Stevens o adroddiadau cloddio (2006: 31) ond dim ond un sydd, i sicrwydd, yn fefel mwnci neu fabŵn (Stevens 2006: 60-61). Felly, er y gwyddom am amwledau mwnci o’r safle (e.e. W961p yn y Ganolfan Eifftaidd), ac am fefelau modrwy mwnci anhysbys eu tarddiad (e.e. UC58198), mae’n ymddangos yn fwy tebygol mai befel Bes sydd yma.

Yn ystod teyrnasiad Amenhotep III y daeth portreadau o Bes o’r ochr i amlygrwydd ac mae’r enghreifftiau fel arfer yn ei ddangos yn chwarae drwm (Andrews 1994: 40). Roedd Bes yn boblogaidd iawn yn Amarna, gyda thros 500 o enghreifftiau o dlyswaith faience yn ei bortreadu.

Mae Bes yn wrthfelltithiol, yn heulol ac yn gysylltiedig yn arbennig â menywod ifanc a geni plant. Yn Amarna a Deir el-Medina fel arfer dangosir ef gyda Taweret (Stevens 2006: 216), sy’n cadarnhau ei weddau ffrwythlondeb. Fel sy’n gweddu i dduw cysylltiedig â rhywioldeb, mae Bes yn aml yn cael ei ddangos yn noeth ac yn aml fel drymiwr, ac ar ddysgl Leiden (AD14), y soniwyd amdani uchod, mae’n cael ei bortreadu ar goes y chwaraewr liwt. Roedd y drwm, yn y Dwyrain Agos, yn cael ei gysylltu’n bennaf â cherddorion benywaidd (Meyers 1993). Yn yr Aifft, dim ond y drwm hirsgwar sy’n cael ei gysylltu’n arbennig â menywod yn ystod y Deyrnas Newydd (Teeter 1993: 80), ac eto mae’n ymddangos fod Bes yn chwarae drwm crwn, offeryn dynion a merched fel ei gilydd.

Darllen pellach:

Graves-Brown, C. 2014. A Gazelle, A Lute Player and Bes. Three Ring Bezels from Amarna, In Dodson, A. Johnston, J.J. and Monkhouse, W. (gol.) A Good Scribe and an Exceedingly Wise Man. Studies in Honour of W.J. Tait. Llundain: Golden House, 113-126.

Frankfort, H. a Pendlebury J.D.S. 1933, The City of Akhenaten Part II, The North Suburb and the Desert Altars: The Excavations at Tell el-Amarna During the Seasons 1926-1932. Llundain: Egypt Exploration Society.

Friedman, F.D. gol. 1998. Gifts of the Nile Ancient Egyptian Faience. Llundain: Thames and Hudson.

Meyers, C. 1993. ‘The Drum-Dance-Song Ensemble: women’s Performance in Biblical Israel.’ In Rediscovering the Muses, Women’s Musical Traditions edited by K. Marshall. Boston: Northeastern University Press, 49-67.

Reeves, N. 1985. ‘A lute player of the Amarna Period’ GM 87, 79-82.

Stevens, A., 2006. Private Religion at Amarna. The material evidence. BAR International Series 1587. Oxford: Archeopress.

Teeter, E. 1993. Female Musicians in Pharaonic Egypt In Marshall, K.(ed.) Rediscovering the Muses, Women’s Musical Traditions. Boston: Northeastern University Press, 68-91.

Gwrthrychau eraill o Amarna

Bes

css.php