• English
  • Cymraeg

Arogldarth

Roedd arogldarth yn bwysig iawn yn yr Hen Aifft. Cludwyd coed arogldarth i’r Aifft gan Hatshepsut pan aeth i Punt (rhywle yn Ne Affrica) a mewnforiwyd eitemau aromatig eraill o Fôr y Canoldir. Defnyddid arogldarth mewn defodau teml ac ar gyfer perarogli cyrff, mewn bywyd a marwolaeth, ac fe’i defnyddid i buro’r cartref ac am resymau meddygol. Ymddengys mai un o gynhwysion cyffredin arogldarth oedd resin pistachia. Fodd bynnag fe wyddom hefyd mai’r enw ar un o’r arogldarthau a fyddai’n cael ei losgi’n fwyaf cyffredin oedd kyphia, er na wyddom yr holl sylweddau a ddefnyddid ar gyfer hyn. Er bod gennym ni ryseitiau, mae rhai o’r geiriau yn y ryseitiau yn dal i fod heb eu cyfieithu.

Defnyddiai’r Eifftiaid y termau snTr ac antyw i gyfeirio at arogldarth, a chofnodwyd bod y ddau yn dod o Punt. Yn gyffredinol, tybir mai’r ddau gynhwysyn oedd, yn eu tro, thus a myrr. Fodd bynnag mae dadansoddiad Serpico a White (2000) o wir resinau o’r Deyrnas Newydd wedi awgrymu mai pistachia yw snTris gan fwyaf, er y gellid bod wedi ychwanegu cynhwysion eraill. Fodd bynnag mae thus wedi’i ganfod yn Qasr Ibrîm (AD400-500; Evershed at al. 1997). 

Eitemau’n gysylltiedig ag arogldarth yn y Ganolfan Eifftaidd:

 

EC271 Llosgwr arogldarth faience

W154 darn o Amarna sy’n dangos arogldarth yn cael ei losgi

W946 Maen coffa’n dangos Commodus yn cynnig arogldarth i fam tarw Buchis

W1043 Maen coffa’n rhestru offrymau gan gynnwys arogldarth

W1400 Llosgwr arogldarth o Amarna

Cyfeiriadau 

Blackman, A.M. 1936. The significance of incense and libations in funerary and temple rituals. Zeitschrift für Ägyptische Sprache und Altertumskunde, 72, 118-120. 

Evershed, R.B., van Bergen, P.F., Peakman, T.N., Leigh-Firbank, E.C., Horton, M.C., Edwards, D., Biddle, M., Kjølbye-Biddle, B. and P. A. Rowley-Conwy, P.A. 1997. Archaeological Frankincense. Nature, 360, 667-668.

Manniche, 2009. L. Perfume. UCLA Encyclopedia of Egyptology 

http://escholarship.org/uc/item/0pb1r0w3#page-2 (accessed Nov. 2011) 

Serpico, M. and White, R. 2000. The Botanical identity and transport of incense during the Egyptian New Kingdom, Antiquity. 74 (286), 884-898. 

Serpico, M. 2000. Oil, fat and wax, in Nicholson, P.T. and Shaw, I. Ancient Egyptian Materials and Technology. Cambridge: Cambridge University Press, 390-429.

Wise, E. 2009. An “Odor of sanctity”: The iconography, magic and ritual of Egyptian incense, Studia Antiqua 7.1 – spring 2009, 67–90.

css.php