• English
  • Cymraeg

EC446 and EC447

EC446

Cafodd y ddau ffigwr crochenwaith hyn o fenywod noeth sydd tua 9cm o uchder eu gwneud mewn mowldiau. Mae’n ymddangos bod ar ben yr un ar y dde gôn persawr ac mae ei ffurf fain yn awgrymu dyddiad o’r Deyrnas Newydd. Mae’n ddigon tebyg mai pen baban sydd i’wEC447 weld wrth law dde’r fenyw. Mae’n ymddangos bod yr un ar y chwith, gyda ‘EGYPT/73’ wedi’i ysgrifennu arno, yn ddiweddarach. Mae’n debyg bod ffigyrau o’r fath yn cael eu gwneud tan y cyfnod Groegaidd-Rufeinig. Fel arfer, maen nhw’n dangos menyw noeth ar blac neu wely, weithiau gyda baban wrth ei hochr.

Cafwyd nifer o fodelau tebyg y tu allan i’r Aifft, yn Syria-Palesteina. Cafwyd enghreifftiau hynod o debyg i’r ffurfiau Eifftaidd yng ngarsiwn yr Aifft yn Beth Shan.

Tan yn ddiweddar, y duedd oedd galw’r ffigyrau hyn yn ‘ffigyrau gordderch’ a’u bwriad oedd darparu cymar rhywiol i’r dyn marw (e.e. Petrie 1927, 9). Fodd bynnag, fel y dangosodd Pinch (1983), mae ffigyrau o’r fath i’w cael mewn claddiadau menywod, mewn temlau ac mewn tai. Cafwyd nifer yn Amarna, Kom Rabi’a a Deir el-Medina. Mae mathau fel y rhain (enghreifftiau clai ar blaciau) yn tueddu i fod yng nghyd-destun y cartref neu gyd-destun angladdol (Waraksa 2009, 25-28). Gall y plac fod yn cynrychioli gwely. Mae Waraksa (2009, 64) yn awgrymu bod mwyafrif y modelau math 2 o’r Deyrnas Newydd wedi’u gwneud mewn canolfannau brenhinol fel Thebes ac Amarna. Am wybodaeth am enghreifftiau Groegaidd-Rufeinig gweler Bailey (2009, 7-9).

Mae llawer o’r enghreifftiau wedi torri. Difrod damweiniol o bosib, er bod Waraksa (2009, 18-20, 67-72) yn awgrymu mai rhan o ddefod grefyddol efallai oedd yn gyfrifol am y difrod. Fel y rhain, mae’r ffigyrau’n aml wedi torri ar draws eu rhan drwchus, pwynt cryfaf eu gwneuthuriad, sy’n awgrymu nad difrod damweiniol sydd yma.

Mae rhai wedi awgrymu bod y ffigwr yn cynrychioli mam-dduwies. Fodd bynnag, anaml y dangosir duwiesau Eifftaidd yn noeth. Mae’r ffigyrau hefyd wedi cael eu dehongli fel merched yn dawnsio. Mae’n ymddangos i amryw eu bod yn offrymau diofryd i Hathor. Mae Hathor yn cael ei gysylltu â ffrwythlondeb a gall natur noeth y modelau, ynghyd â’r gwall gosod trwchus ar lawer ohonynt, awgrymu ffrwythlondeb. Ar gyfrif arlliw erotig y noethni a’r gwelyau y mae’r ffigyrau wedi’u rhoi i orwedd arnynt, gallwn ddyfalu bod y modelau wedi’u gwneud i sicrhau ffrwythlondeb menywod. Gall ffrwythlondeb hefyd fod â chysylltiad ag ailenedigaeth yn y bywyd tu hwnt i’r bedd, fyddai’n esbonio eu hymddangosiad mewn beddau. Fodd bynnag, y mae awgrymiadau eraill. Mae testunau’n awgrymu bod ffigyrau o glai’n cael eu defnyddio mewn defodau iacháu. Fodd bynnag, mae’r ffaith y gallai’r ffigyrau fod wedi’u difrodi’n bwrpasol yn awgrymu y gallent, ar y llaw arall, fod wedi’u ‘lladd’ yn ddefodol. Gellir hawlio y byddai’n rhaid i’r eitem gael ei ‘lladd’ yn ddefodol wedi iddi gael ei defnyddio i bwrpas defodol fel iacháu neu ffrwythlondeb.

Other fertility figurines in the Egypt Centre

Darllen Pellach

Giddy, L., 2000. Kom Rabi’a The New Kingdom and Post-New Kingdom Objects. Survey of Memphis 2. London: Egypt Exploration Society. 

Petrie, W.M.F. 1927. Objects of Daily Use. London: Egypt Exploration Society. 

Pinch, G.,1983. ‘Childbirth and Female Figurines at Deir el-Medina and el-‘Amarna.’ Orientalia 52. pp. 405-14. 

Pinch, G., 1993. Votive Offerings to Hathor. Oxford: Griffith Institute and Ashmolean Museum. pp. 198-225.

Waraksa, E.A. 2009. Female Figurines from the Mut Precinct. Context and Ritual Function. Fribourg: Academic Press Fribourg.

css.php