• English
  • Cymraeg

 

EC250

Crogdlysau gleiniau o faience glas a bylchwyr o faience du, glas a gwyrdd. 5 crogdlws ar ffurf deilen, pedair mewn faience glas ac un mewn carreg. Mae’r rhain wedi’u hail-liynynnu. Credir i’r eitemau gael eu darganfod gyda’i gilydd mewn grŵp, er nad yw’r Amgueddfa’n siŵr nad o grwpiau gwahanol y cawsant eu rhoi ynghyd. Felly, mae’n bosib cwestiynu’r dyddiad.

Ymddengys fod crogdlysau ar ffurf deilen yn boblogaidd yng nghyfnod y Deyrnas Ganol, er eu bod hefyd yn gyffredin yn ddiweddarach. Mae’n bosib bod ffurf deilen yn amwletig yn ogystal ag yn ddeniadol.

Roedd tlyswaith yn cael ei wisgo gan bob grŵp yn yr hen Aifft. Roedd nid yn unig yn edrych yn ddeniadol ond gallai hefyd weithredu fel swynbeth a chyfeirio at ddosbarth cymdeithasol a rhyw person. Am ragor o wybodaeth ar dlyswaith Eifftaidd gweler: Aldred 1971; Andrews 1990.

Mae’r gleiniau hyn wedi’u gwneud o faience. Mae faience wedi’i alw’n ‘first high tech ceramic’ (Vandiver and Kingery 1987, 9). Cynhwysion faience yw silica, natron/lludw planhigion a chalch, ac mae gan amlaf wedi’i liwio’n las trwy ychwanegu cobalt. Am ragor o wybodaeth am faience gweler: Nicholson and Peltenburg 2000.

Darllen pellach:

Aldred, C. 1971. Jewels of the Pharaohs. Egyptian Jewellery of the Dynastic Period. Llundain: Thames and Hudson.

 

Andrews, C. 1990. Ancient Egyptian Jewellery. Llundain: British Museum Press.

 

Nicholson, P.T. and Peltenburg, E. 2000. Egyptian faience. In Nicholson, P.T. and Shaw, I. Ancient Egyptian Materials and Technology. Caergrawnt: Cambridge University Press, 177-194.

 

 

css.php