• English
  • Cymraeg

 

ec2039

Ffigwr faience o fenyw noeth yn dal llestr ar ffurf cafn. Mae ei phen ar goll. Mae’r math hwn o arteffact fel petai’n ddatblygiad o ffigurau pren bychan y Deyrnas Newydd o ferch yn nofio a geir mewn temlau a beddau ac a fyddai’n cael eu defnyddio o bosib mewn defodau. Credir fel arfer fod y ffigurau’n cynrychioli’r dduwies Nut.

Mae merch yn nofio gyda chafn o’r 25ain i’r 26ain Frenhinllin yn cael ei darlunio yn Schoske 1990, 147. Mae un arall yn Hayes 1959, ffig.106; a thrydedd yn dyddio o’r 25ain Frenhinllin yn Beck et al. 2005, 536. Felly, ymddengys fod y darn hwn yn dyddio o’r 25ain neu’r 26ain Frenhinllin (712-525 CC).

Cyfeiriadau

Beck, H., Bol, P.C. and  Bückling, M. (gol.), 2005. Städelsches Kunstinstitut und Städtische Galerie ‘Ägypten Griechenland Rom Abwehr und Beruhrung. 26. November 2005 – 26, Frankfurt.

Hayes, W.C. 1959. The Sceptre of Egypt II, Caergrawnt.

Schoske, S. 1990. Schönheit Abglanz Der Göttlichkeit. Kosmetik im Alten Ägypten, Munchen.

Wallert, I. 1967. Der Verzierte Löffel: Seine Formgeschichte und Verwandung im Alten Ägypten, Ägyptologische Abhandlungen 16, Wiesbaden.

Fake swimming girls

css.php