• English
  • Cymraeg

 

 


 

Mae gan y Ganolfan Eifftaidd bedwar coler gleiniog a oedd o bosib yn eiddo i dywysoges neu dywysogesau. Gall yr edau fod yn wreiddiol, ac os felly mae’n 3000 blwydd oed! I fod yn siŵr byddai’n rhaid i ni ei garbon-ddyddio, a byddai hynny’n dinistrio’r edau.

Mae gan dri o’r coleri amwledau crogdlws yn hongian wrthynt. Yng nghanol pob un o’r tri mae amwled mawr. Amwled blodeuog sydd yn un ohonynt, amwled Bes yn un arall ac amwled calon yn y trydydd. Un o’r amwledau mwyaf poblogaidd o Amarna oedd hwnnw o’r cor-dduw Bes. Yn y Ganolfan Eifftaidd, mae ar y coler Bes ffigwr Bes benywaidd anarferol. Fodd bynnag, mae rhai wedi dadlau nad Bes benywaidd yw hwn ond Bes gwrywaidd gordew (Ward 1972).

Nid yw tarddiad y coleri erioed wedi’i brofi ac eto maen nhw am flynyddoedd lawer wedi cartrefu ym Mhrifysgol Abertawe ac yn datgan eu bod o fedd tywysogesau. Mae’r syniad i’r coleri hyn ddod o fedd tywysogesau yn deillio’n bennaf o’r ffaith eu bod yn amlwg o fedd cyfoethog, bod ffurf rhai o’r gleiniau a’r amwledau yn debyg i’r rhai o Amarna a bod bedd cyfoethog yng nghyffiniau Amarna wedi cael ei ysbeilio yn yr 1880au. Prynwyd y coleri gan Berens yn yr 1880s a phrynwyd hwy’n ddiweddarach gan Syr Henry Wellcome. Fodd bynnag, roedd ym medd yr 1880au ei hun nid yn unig ddarn o arch garreg gydag enwau tywysogesau Amarna ond hefyd enw Akhenaten ac Amenophis III (Martin, 1974).

Mae’r ffaith fod rhai o’r amwledau yn enwedig y Beset, y pysgod a’r hadau capan cornicyll/melon (nid yw’n glir pa fath o hadau) yn gysylltiedig â menywod yn ategu’r gred mai menywod oedd eu perchnogion, er y gall y cysylltiadau, yn ystadegol, fod yn ddiystyr oherwydd bod cyn lleied o ddarnau o dlyswaith cymharol ar gael. Cafwyd gleiniau hadau capan cornicyll/melon ac amwledau pysgod yn gysylltiedig â chladdiadau gwragedd Tuthmosis III. Efallai mai cragen wystrysen neu addurn blodeuog yw un o’r amwledau canol; roedd (Bosse-Griffiths 1977, 98) yn ei gweld fel ‘ffan’. Mae cregyn wystrys wedi’u gweld ar dlyswaith y Dywysoges Khnumet o Dashur ac ymhlith trysorau Meret, Sit-Hathor, Senebtisy a Nubhotepti. Fel arfer mewn celfyddyd gynrychiadol Eifftaidd dangosir hwy o gwmpas gwddf menyw (Andrews 1994, 43). Fodd bynnag, mae ar ddwyfron Tutankhamun amwled pysgodyn ac felly nid yw’r eitemau hyn o reidrwydd yn gysylltiedig â menywod. Gellir cysylltu amwledau eraill, fel yr amwled calon ar y coler, â gwrywod neu fenywod. Edrychwch a allwch chi weld yr amwled babŵn, amwled y dyn gyda ffon ac amwled y capan cornicyll/pen pabi, plentyn yn ei gwrcwd gyda’i fys yn ei geg. Mae i fwy nag un coler nifer o leiniau rhosglwm.

Byddai un yn disgwyl i goleri o’r fath fod â phen terfynol faience. Gellir gweld pennau terfynol ar y coleri o waith carton yn ‘Nhŷ’r Meirw’. Fodd bynnag, fe all y pennau terfyn fod wedi eu torri i ffwrdd o’r coleri a’u gwerthu ar wahân.

Mae’n ymddangos fod coleri llydan yn nodwedd gyffredin o wisg Eifftaidd. Fodd bynnag, mae’n anarferol cael coleri â’r edau’n dal yn gyfan. Yn aml byddai masnachwyr yn gwneud coleri i fyny o leiniau o wahanol ffynonellau ac yn aml o wahanol ddyddiadau. Mae’n bosib i’r un peth ddigwydd i’n un ni. Fodd bynnag, mae’n ymddangos fel pe bai’r gleiniau o’r un cyfnod, y 18fed Dynasty, sy’n cadarnhau’r syniad fod yr edau’n ddilys. Yn fwy na hynny, edau lin yw’r edau. Defnyddiai’r hen Eifftiaid edau lin tra tueddai ffugwyr i ddefnyddio edau gotwm. Mae gleiniau terfynol isaf coleri Canolfan yr Aifft yn hongian yn llac. Byddai un yn disgwyl, wrth iddynt gael eu gwisgo gan berson byw, i’r gleiniau fod allan o aliniad y ffordd mae gweddill y patrwm yn ymledu. Nid oes rai cyfochrog i goleri o’r fath ymhlith y coleri a ddarganfuwyd eu hunain na phortreadau ohonynt, er bod y coler neffer (hardd) aur yn dod yn agos, ac er bod y gleiniau ynddo lawer yn fyrrach nag yn enghraifft Canolfan yr Aifft.

Efallai mai’r un tebycaf yn nhermau amrywiaeth o leiniau yw’r coler bychan Ptolomeig sydd yn yr Amgueddfa Gelfyddyd Fetropolitanaidd (49.121.1).

Gellir cyfochri’r gleiniau bach ymblethedig yn y mwclis â ffurfiau o eitemau eraill ym medd Tutankhamun.

Darllen pellach

 

Andrews, C., 1994. Amulets Of Ancient Egypt. British Museum Press. 

Blackman, A.M., 1917. ‘The Nugent and Haggard Collections’. The Journal of Egyptian Archaeology, 4, 39-46. 

Bosse-Griffiths, K., 1975. Bead Collars With Amarna Amulets In The Welcome Collection of University College, Swansea. Égyptologie, 1, 20-24.

Bosse-Griffiths, K., 1977. ‘A Beset Amulet From The Amarna Period’. The Journal of Egyptian Archaeology, 63, 98-106.

Györy, H., 1998 Remarks on Amarna Amulets in C.J. Eyre ed. Proceedings of the 7th International Congress of Egyptologists September 1995. Leuven Peters 497-507. 

Martin, G., T., 1974. The Royal Tombs at El-Amarna. I London.

Ward, W.A .,1972, A Unique Beset Figurine, Orientalia 41, 149-159.

 

 

 

Close-up of ‘Beset’ amulet

Close-up of baboon amulet

Close-up of rosette beads

Close-up of man with stick amulet

Close-up of squatting king, heart and woman with staff

 

Other Amarna amulets in the Egypt Centre

 

 

css.php