• English
  • Cymraeg

W1064

Mae’n ymddangos bod paletau carreg galed tebyg i hwn, wedi’u gwneud o garreg ar wahân i lwydgraig yn cael eu cynhyrchu yn gynharach na’r rhai llwydgraig, er bod rhai llawn mor ddiweddar. Maen nhw wedi’u darganfod yn Nubia yn ogystal â’r Aifft.

Mae enghreifftiau wedi’u darganfod yn Naqada a Gerzeh sydd wedi’u dyddio gan Petrie i’r Cyfnod Dynastig Cynnar o bosib (Petrie 1920, 39-40). Mae un hefyd sy’n dod o gloddiadau Morgan yn el Masa’id ac wedi’i dyddio i Naqada III (Needler 1984, 319, 326). Yn fwy diweddar, daethpwyd o hyd i ddau balet gwyrddfaen (fel yr un sydd wedi’i ddarlunio yma), un yn rhombaidd ac un yn hirsgwar, gyda cherigos rhwbio, malachit ac ocr o feddrod 72 yn Hierakonpolis HK6 (http://www.hierakonpolis-online.org/index.php/explore-the-predynastic-cemeteries/hk6-elite-cemetery/tomb-72). Roedd Petrie a Needler yn credu bod yr enghreifftiau a gafwyd yn yr Aifft yn dod o Nubia’n wreiddiol ac yn wir mae’n ymddangos bod yna gysylltiadau cryf rhwng y diwylliant Nubaidd Grŵp-A a’r Aifft Cynddynastig.

Mae paletau carreg galed hefyd wedi’u darganfod mewn claddiadau Nubaidd Grŵp-A (Nordström 1972, pl. 191) yn dyddio o 3700-3250CC. Mewn bedd Nubaidd yn Kadruka yn dyddio o tua 6000-6500 CC roedd palet gwyrddfaen gyda gweddillion dyn mewn oed (Pardo Mata 2004, 140). Mae llawer o rai eraill wedi’u gwneud o gwartsit.

 

Cyfeiriadau

Needler, W. 1984. Predynastic and Archaic Egypt in the Brooklyn Museum. Brooklyn: The Brooklyn Museum.

Nordström, H. –A., 1972. Neolithic and A-Group Sites. 2 gyfrol. (Scandinavian Joint Expedition to Sudanese Nubia 3). Copanhagen: Scandinavian University Books.

Pardo Mata, P.P. 2004, Possible parallels between Egyptian and Sudanese Neolithic figurines, and another contemporaneous ones coming from the near Eastern area. Boletín de la Asociación Espanola de Orientalistas 40, 135-147.

Other Predynastic items in the Egypt Centre

Siltstone palettes in the Egypt Centre

 

css.php