• English
  • Cymraeg

 

 

EC538

Pen crochenwaith o Nubiad. Gellir adnabod y pen fel un Nubaidd oddi wrth y steil gwallt croesffurf. Mae’r darn yn 3.5cm o uchder ac wedi’i fodelu â llaw. Mae’n ymddangos ei fod yn perthyn i ddarn mwy. Mae i’r pen allwthiad gyda thwll, er mwyn ei hongian mae’n debyg, ac mae cefn y pen fel petai’n dangos gwallt â chocyn. Ar y llaw arall, gall y ddolen fod yn cynrychioli modrwy wallt fel yn ECM822, pen Nubiad faience o Gasgliad Coleg Eton neu’r gwasanaethwyr ar ostraca’r Amgueddfa Brydeinig EC8506. Mae’n debyg fod steil y gwallt yn gysylltiedig â menywod Nubaidd (Bulté 1991, 94), sy’n aml yn cael eu dangos ar eitemau’n gysylltiedig ag ymbincio a chyda geni plant a mamolaeth (e.e. Ashmolean AN1896-1908 E.1807 a’r Amgueddfa Brydeinig EC8506).

Mae enghreifftiau tebyg yn cynnwys ECM822 yng nghasgliad Coleg Eton (Graves 2013). Roedd nifer o dduwiesau pwysig fel Tefnut a Sekhmet yn cael eu cysylltu â Nubia yn y Cyfnod Diweddar. Cred Friedman (1998, 208) fod ffigyrau o’r fath yn gysylltiedig â mamolaeth a’u bod yn cael eu defnyddio o bosib i warchod plant ifanc. Mae enghraifft gyfan yn Amgueddfa Celfyddyd Gain, Boston (1951.13, yn Friedman 1998 gol. 69: 109, 208 a http://www.mfa.org/search/collections?keyword=1984.168) yn dangos ffigwr yn magu.

Gweler Pendlebury, J.D.S. 1951 pl. LXXIX rhif 12 (102b) a t13 ble y disgrifir hwn fel ‘a foreigner’s head from the dump’. Gweler Stevens 2006, 43 am fwy o wybodaeth ar y math hwn o arteffactau, er nad yw hi’n sôn am yr eitem neilltuol hon.

Cyfeiriadau

Bulté, J. 1991. Talismans Égytiens d’Heureuse Maternité. Faïence bleu vert à pois foncés. Paris.

Friedman, F.D. ed. 1989. Gifts of the Nile: Ancient Egyptian Faience. Thames and Hudson: Llundain.

Graves, C. 2013. Eton College Myers Collection of Egyptian Antiquities Object Highlight: ECM822, A Faience Nubian Head. Birmingham Egyptology Journal, 1. http://birminghamegyptology.co.uk/wp-content/uploads/2013/01/Eton-College-Myers-Collection-of-Egyptian-Antiquities-Object-Highlight-ECM822-A-Faience-Nubian-Head1.pdf (accessed 1.10.2013).

Pendlebury, J.D.S. 1951 The City of Akhenaten Part III The Central City and Official Quarters, Volume I. Plates. Llundain: Egypt Exploration Society.  

Stevens, A. 2006. Private Religion at Amarna. The Material Evidence. Rhydychen: Archaeopress

 

Other Nubian pieces in the Egypt Centre

Eitemau eraill o Amarna yn y Ganolfan Eifftaidd

css.php