• English
  • Cymraeg

W379

Siabti pren goruchwyliwr

 

Mae’n amlwg mai goruchwyliwr yw’r ffigur hwn oherwydd ei fod yn gwisgo cilt. Roedd siabtïau gweithwyr fel arfer ar ffurf mymi. Mae’r eitem hon yn dyddio o’r Deyrnas Newydd.  Sylwer ar y sglein melyn a ychwanegodd at statws duwiol y siabti. Mae’r darn yn 205mm o uchder.

Mae’r testun ar y siabtïau penodol hyn yn darllen: ‘Yr Osiris, ysgrifennydd offrymau duwiol Tŷ Amun, Ptahhotep y Cyfiawnedig.’ Mae’r hieroglyffau’n ymestyn dan gilt y siabti.

Byddai siabtïau’n cael eu cynhyrchu mewn grwpiau o ddeg yn aml gydag un goruchwyliwr. Byddent yn cael eu gosod mewn blychau’n aml. Mae blwch y siabtïau hyn yn Amgueddfa Birmingham.

Roedd y siabti’n cynrychioli’r ymadawedig yn y bywyd tragwyddol a byddent yn cyflawni gorchmynion eu perchennog. (Ond gweler Poole, F ‘Slave or Double? A reconsideration of the conception of the shabti in the New Kingdom and the Third Intermediate Period’ yn C.J. Eyre (gol.) 1998. ‘Proceedings of the Seventh International Congress of Egyptologists. Cambridge 3-9th September 1995’. Leuven : Peeters, 893-901). Prynwyd gan Wellcome o Gasgliad Frankland Hood ym 1924, lot 157/11. Yn ôl catalog yr arwerthiant, daeth y rhan fwyaf o’r eitemau yng nghasgliad Hood o ardal Thebes.

Siabtïau eraill yn y Ganolfan Eifftaidd

 

css.php