Gwladychiaeth a dychweliad
Rhai ffeithiau ynghylch y Ganolfan Eifftaidd a dychweliad gwrthrychau:
- Nid yw’r Ganolfan Eifftaidd yn berchen ar y rhan fwyaf o’r gwrthrychau yn ei gofal. Maen nhw’n perthyn i Ymddiriedolaeth Wellcome
- Nid yw swyddogion o’r Aifft erioed wedi gofyn am ddychwel gwrthrychau
- Mae llawer o ddarnau na wyddom o ble y cafwyd hwy yn yr Aifft
- Ni chafodd y gwrthrychau eu dwyn yn anghyfreithlon o’r Aifft
- Gwerthwyd nifer o’r darnau gan Eifftiaid i Ewropeaid
Materion eraill i’w hystyried
- A yw’r gwrthrychau a ddangosir gennym yn rhan o’n hetifeddiaeth ni neu yn perthyn i Eifftiaid heddiw?
- A ddylem ofyn i Eifftiaid heddiw sut y dylem arddangos eu treftadaeth?
Mae Ewropeaid ar dro yn ystyried yr hen Aifft fel rhan o ddiwylliant y gorllewin ond heb ystyried yr Aifft modern yn yr un modd. A ddylem arddangos mwy o bethau o’r Aifft o gyfnod wedi’r ffaroaid?